Arweiniad

Pennod 10 - Gweithredu Cadarnhaol

Wedi ei gyhoeddi: 2 Hydref 2024

Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Dyma ein Cod ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar ein diweddariadau, ac rydym angen eich adborth.

Ewch i'n tudalen ymgynghoriad Cod Ymarfer i roi adborth.

Cyflwyniad

10.1 Mae’r bennod hon yn esbonio’r darpariaethau gweithredu cadarnhaol yn y Ddeddf (a.158).

Beth yw gweithredu cadarnhaol?

10.2 Gall rhai pobl wynebu rhwystrau wrth gael mynediad i wasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau neu gall fod ganddynt anghenion penodol sy’n gysylltiedig â ffactorau mewn perthynas â’u nodwedd warchodedig.

Gall pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig hefyd brofi anfantais neu wahaniaethau mewn canlyniadau cymdeithasol ac economaidd sydd wedi eu llunio’n rhannol gan ffactorau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n gysylltiedig â gwahaniaethu hanesyddol neu gyfredol. Mae achosion yr anghydraddoldebau strwythurol hyn yn niferus a chymhleth a gallant gynnwys agweddau, ymddygiadau a normau diwylliannol gwahaniaethol o’r gorffennol a’r presennol.

10.3 Mae sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat yn aml yn dymuno gweithredu i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn a gwella eu gwasanaethau a’u hymgysylltiad â grwpiau penodol o fewn y gymuned. Gall camau a gymerir gynnwys darparu gwasanaethau ychwanegol neu bwrpasol, cyfleusterau ar wahân, mynediad cyflym i wasanaethau, targedu adnoddau neu gyfleoedd cynefino neu hyfforddi er budd grŵp penodol dan anfantais.

10.4 Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi darparwyr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau i gymryd camau cymesur i:

  • oresgyn neu leihau anfantais a brofir gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig
  • diwallu eu gwahanol anghenion
  • galluogi ac annog eu cyfranogaeth mewn gweithgareddau lle maent wedi eu tangynrychioli

 Adwaenir y rhain fel y darpariaethau ‘gweithredu cadarnhaol’.

Yr hyn mae’r Ddeddf yn ei ddweud

Yr amodau statudol

10.5 Gall darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n fodd cymesur o gyflawni’r nodau a bennwyd yn y Ddeddf (‘y nodau a bennwyd’) lle credant yn rhesymol bod pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig:

  1. yn profi anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno (a.158(1)(a))
  2. ag anghenion sy’n wahanol i anghenion personau nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno (a.158(1)(b))
  3. â chyfranogaeth anghymesur o isel mewn gweithgaredd o gymharu â’r sawl nad ydynt yn rhannu’r nodwedd warchodedig honno (a.158(1)(c))

Y nodau a bennwyd

10.6 Y rhain yw:

  1. galluogi neu annog personau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig i oresgyn neu leihau’r anfantais honno (y cyfeirir ato yn y bennod hon fel ‘gweithrediad i unioni anfantais) (a.158(2)(a))
  2. diwallu’r anghenion hynny (y cyfeirir ato yn y bennod hon fel ‘gweithrediad i ddiwallu anghenion’) (a.158(2)(b))
  3. galluogi neu annog personau sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig i gyfranogi yn y gweithgarwch hwnnw (y cyfeirir ato yn y bennod hon fel ‘gweithgarwch i annog cyfranogaeth mewn gweithgareddau’) (a.158(2)(c))

Beth yw ystyr ‘meddwl yn rhesymol’?

10.7 Er mwyn gweithredu’n gadarnhaol rhaid i ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas feddwl yn rhesymol bod un o’r amodau statudol a ddisgrifir ym mharagraff 10.5 yn berthnasol, yn benodol, a) anfantais, b) angen gwahanol neu c) cyfranogaeth anghymesur o isel.

Golyga hyn y bydd angen rhywfaint o arwydd neu dystiolaeth er mwyn dangos bod un o’r amodau statudol hyn yn berthnasol. Nid oes angen i’r arwydd neu dystiolaeth honno fod yn ddata neu waith ymchwil ystadegol soffistigedig, fodd bynnag. Er enghraifft, gallai olygu yn syml edrych ar broffiliau defnyddwyr gwasanaethau neu wneud ymholiadau ynglŷn â darparwyr gwasanaethau eraill yn yr ardal. Neu, gallai olygu edrych ar wahanol raddau o fanteisio ar fudd-daliadau neu wasanaethau, neu fynediad i aelodaethau, neu wahanol gyfraddau o waharddiadau neu wrthodiadau.

10.8 Gallai penderfyniad i gymryd camau gweithredu cadarnhaol fod yn seiliedig ar dystiolaeth ansoddol, megis ymgynghoriadau â defnyddwyr a phobl nad ydynt yn ddefnyddwyr neu arolygon yn dangos profiadau gwael o wasanaeth, swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas mewn perthynas â nodwedd warchodedig. Gallai gynnwys, er enghraifft, tystiolaeth gan grwpiau ffocws, cwynion, adroddiadau archwiliadau, honiadau o wahaniaethu neu dystiolaeth o broblemau tebyg a gasglwyd gan sefydliadau eraill.

Enghraifft

10.9 Fe dynnodd adroddiad archwiliad diweddar o garchardai sylw at broblemau iechyd sylweddol a brofwyd gan garcharorion oedd yn wladolion tramor, a oedd yn rhannol yn sgil oedi mewn diagnosis a thriniaeth. Manylodd yr adroddiad ynghylch afiechydon penodol y mae pobl o wledydd penodol yn arbennig o agored iddynt. Dangosodd cofnodion iechyd i ychydig iawn o garcharorion oedd yn wladolion tramor geisio cyngor meddygol hyd nes eu bod yn ddifrifol wael. Arweiniodd y dadansoddiad hwn o’u cofnodion iechyd awdurdodau’r carchardai i feddwl yn rhesymol bod gan garcharorion oedd yn wladolion tramor anghenion iechyd gwahanol i anghenion carcharorion eraill. Yn ogystal â gwella hyfforddiant staff iechyd carchardai, sefydlwyd cynllun archwiliadau meddygol misol i bob carcharor oedd yn wladolion tramor.

Byddai hyn yn enghraifft o gamau gweithredu cadarnhaol. Er bod carcharorion oedd yn wladolion tramor yn cael lefel ffafriol o ymdriniaeth, ar ffurf yr archwiliadau meddygol misol, roedd gan awdurdodau’r carchardai dystiolaeth bod un o’r amodau statudol a ddisgrifir ym mharagraff 10.5 yn berthnasol. Nod cyflwyno’r archwiliadau oedd diwallu’r angen hwnnw a adwaenwyd, sydd yn un o’r ‘nodau a bennwyd’ a ddisgrifir ym mharagraff 10.6 uchod. Cyn belled â bod y camau gweithredu a gymerwyd yn cael eu hystyried yn fodd cymesur o gyflawni’r nod hwnnw, byddai’n gyfreithiol.

Beth yw ystyr ‘cymesur’?

10.10 I fod yn gyfreithiol, mae’n rhaid i unrhyw gam gweithredu a gymerir o dan y darpariaethau gweithredu cadarnhaol fod yn fodd cymesur o gyflawni un o’r ‘nodau a bennwyd’ a ddisgrifir ym mharagraff 10.6.

10.11 Mae cymesuredd yn gofyn am ymarfer cydbwyso rhwng y nod y ceisir ei gyflawni a’r ymdriniaeth lai ffafriol o eraill y gallai ei achosi. Mae’n rhaid nad yw’r anfanteision a achosir yn anghymesur i’r nodau a geisir. Mae’r llysoedd wedi torri hyn i lawr i brawf pedwar cam, a esbonnir ym mharagraff 5.53 [troednodyn 71].

Er mwyn i fesur fod yn gymesur:

  1. Mae’n rhaid i’r nod fod yn ddigon pwysig i gyfiawnhau cyfyngu ar hawl sylfaenol.
  2. Mae’n rhaid bod y mesur yn rhesymol gysylltiedig â’r nod a geisir. Mae mesur yn rhesymol gysylltiedig â nod os gellir disgwyl yn rhesymol i’w weithrediad gyfrannu at gyflawni’r nod.
  3. Mae’n rhaid nad yw’r moddau a ddewiswyd yn ddim mwy nag sy’n angenrheidiol i gyflawni’r nod. Bydd y llys yn ystyried a ellid bod wedi defnyddio mesur arall llai ymwthiol heb gyfaddawdu cyflawniad y nod yn annerbyniol.
  4. Mae’n rhaid i effaith y tor-hawliau fod yn gymesur â budd tebygol y mesur.

10.12 Pan yn ystyried cymesuredd mewn perthynas â gweithredu cadarnhaol bydd y ffactorau a ystyrir yn amrywio gan ddibynnu ar y nod a bennwyd, fel amlinellir ym mharagraff 10.6Bydd ffactorau perthnasol yn cynnwys:

  • nod y cam gweithredu a gymerwyd neu sydd i’w gymryd, yn cynnwys cost y cam gweithredu hwnnw
  • difrifoldeb yr anfantais berthnasol
  • i ba raddau mae’r angen yn wahanol
  • a graddau’r gyfranogaeth isel yn y gweithgaredd benodol

Enghraifft

10.13 Mae ffigyrau o gofnodion cystadlaethau yn dangos bod llai o fenywod na dynion yn cymryd rhan yn gystadleuol mewn jiwdo a bod hyn oherwydd eu cyfranogaeth gyffredinol is yn y gamp. Mae sefydliad jiwdo cenedlaethol yn ystyried dau opsiwn er mwyn cyflawni’r nod o annog cyfranogaeth menywod yn y gamp ac, o ganlyniad, gynyddu eu hymgysylltiad mewn jiwdo cystadleuol.

Un opsiwn yw llwyfannu cystadleuaeth jiwdo fawr â gwobr ariannol i fenywod sydd ddwywaith cymaint â’r swm a gynigir i ddynion.

Yr ail opsiwn yw cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd chwe mis o hyd sy’n cynnwys nifer cyfyngedig o sesiynau blasu jiwdo am ddim i fenywod yn unig er mwyn annog menywod i roi cynnig ar jiwdo.

Dydy’r opsiwn cyntaf ddim yn debygol o fod yn fodd cymesur o gyflawni gwell cyfranogaeth gan fenywod. Byddai’n gwahaniaethu yn erbyn dynion sy’n cystadlu mewn jiwdo a byddai ond o fudd i fenywod sydd eisoes yn cymryd rhan yn y gamp. O’r herwydd, nid yw’n debygol o gyflawni trydydd a phedwerydd cam y prawf cymesuredd.

Mae’r ail opsiwn yn fwy tebygol o fod yn fodd cymesur o gyflawni nod y sefydliad. Er y byddai’n golygu trin dynion yn llai ffafriol (yn nhermau llai o hyrwyddo dynion o fewn y gamp a pheidio â’u cynnwys yn y sesiynau blasu am ddim) byddai’r cam gweithredu hwn yn gymesur ac angenrheidiol. Mae’n debygol o fod yn effeithiol wrth ddenu mwy o fenywod i’r gamp, a rhywbeth dros dro yn unig fyddai’r ymdriniaeth lai ffafriol o ddynion.

Gweithredu i unioni anfantais

Beth yw anfantais i’r dibenion hyn?

10.14 Ni ddiffinnir ‘anfantais’ gan y Ddeddf. Galli, er enghraifft, gynnwys gwahardd, gwrthod, diffyg cyfle, diffyg dewis, rhwystrau i fynediad i wasanaethau neu wahaniaethau mewn canlyniadau cymdeithasol ac economaidd (darllener paragraff 5.20). Gall anfantais fod yn amlwg o ffynonellau ystadegol, megis data cenedlaethol. Mewn achosion eraill, gall gael ei ddangos gan dystiolaeth ansoddol neu o ganlyniadau monitro sydd wedi ei gynnal.

Pa gamau gweithredu ellid eu cymryd i alluogi neu annog pobl i oresgyn neu leihau’r anfantais?

10.15 Nid yw'r Ddeddf yn cyfyngu ar y camau y gellid eu cymryd, ar yr amod ei bod yn bodloni'r amodau statudol a'i bod yn ddull cymesur o gyflawni'r nod datganedig hwn (a.158(2)(a)). Er enghraifft, gallai camau gweithredu o’r fath gynnwys nodi achosion posibl yr anfantais drwy arolygon ymgynghori neu adolygiad o ddata, ac yna:

  • targedu gwasanaethau at grwpiau difreintiedig penodol, er enghraifft drwy hysbysebion, rhaglenni allgymorth neu drefniadau arbennig sy’n
  • darparu gwasanaethau neu fathau penodol o aelodaeth sydd wedi’u hanelu’n benodol at grŵp difreintiedig sy’n
  • darparu gwasanaethau neu’n arfer swyddogaethau cyhoeddus mewn ffordd wahanol, er enghraifft ar adegau neu leoliadau gwahanol

10.16 Mae’r Ddeddf yn caniatáu camau gweithredu lle bo pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn profi anfantais sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno, er mwyn goresgyn neu leihau’r anfantais. Gall y cam gweithredu fod yn un sy’n galluogi, megis darparu gwasanaethau sy’n benodol i grŵp, a / neu yn un sy’n annog, megis hysbysebu gwasanaeth mewn cyhoeddiad  a dargedwyd at grŵp penodol.

Enghraifft

10.17 Canfu arolwg o drosedd lleol bod ar Fwslimiaid yn yr ardal ofn sylweddol uwch o drosedd nag unrhyw grŵp arall, ac awgrymodd data’r heddlu bod Mwslimiaid yn fwy tebygol na grwpiau eraill o fod yn ddioddefwyr trosedd.

Fe ymgynghorodd yr heddlu ag aelodau o’r gymuned, yn cynnwys trwy gynnal cyfarfodydd mewn canolfannau cymunedol Mwslimaidd, ynglŷn â pha gamau ellid eu cymryd i helpu pobl i deimlo’n fwy diogel. Gan ystyried yr adborth o’r cyfarfodydd, fe ddatblygodd yr heddlu raglen o gamau gweithredu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd. Roedd hyn yn cynnwys camau megis ymweld â pherchenogion siopau Mwslimaidd i’w cynghori ar sut i atal troseddau, a swyddogion heddlu benywaidd mewn iwnifform yn cwrdd â grwpiau o fenywod Mwslimaidd er mwyn trafod diogelwch personol iddynt hwy a’u plant. Cyn belled â bod cred resymol bod yr anfantais yn bodoli, a bod y cam gweithredu’n cael ei ystyried yn gymesur, byddai hyn yn weithredu cadarnhaol cyfreithlon.

Gweithredoedd i ddiwallu anghenion

Beth yw anghenion ‘gwahanol’ neu ‘penodol’?

10.18 Mae gan grŵp o bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol ‘anghenion gwahanol’ os, yn sgil gwahaniaethu, anfantais neu ffactorau sy’n berthnasol yn benodol i bobl sydd wedi rhannu’r nodwedd honno yn y gorffennol neu’r presennol, bod ganddynt anghenion sy’n wahanol i anghenion pobl eraill. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i anghenion grŵp fod yn hollol unigryw o anghenion grwpiau eraill er mwyn iddynt gael eu hystyried yn ‘wahanol’. Gallai anghenion fod yn wahanol hefyd oherwydd, o’u cymharu ag anghenion grwpiau eraill, nid ydynt yn cael eu diwallu neu oherwydd bod yr angen o bwys arbennig i’r grŵp hwnnw.

10.19 Er enghraifft, mae angen gofal cynenedigol da ar bob menyw feichiog. Fodd bynnag, gallai’r gyfradd uchel o farwolaethau babanod ymysg Sipsiwn a Theithwyr awgrymu bod ganddynt anghenion gwahanol o ran gwasanaethau cynenedigol, mamolaeth ac iechyd plant, megis yr angen am wiriadau iechyd cynenedigol mwy aml.

Pa gamau ellid eu cymryd i ddiwallu’r anghenion hynny?

10.20 Nid yw’r Ddeddf yn cyfyngu ar y camau gweithredu y gall darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithasau eu cymryd i ddiwallu gwahanol anghenion, cyn belled â bod y cam yn bodloni’r amodau statudol ac yn fodd cymesur o gyflawni’r nod hwn a bennwyd (a.158(2)(b)). Gallai cam gweithredu o'r fath gynnwys:

  • ailddyrannu adnoddau er mwyn darparu gwasanaethau mewn lleoliad daearyddol penodol neu ar adeg penodol, er enghraifft, cynyddu patrolau’r heddlu y tu allan i glybiau hoyw er mwyn gwella’r amddiffyniad yn erbyn troseddau casineb homoffobig
  • mabwysiadu ffyrdd o ddarparu gwasanaeth neu swyddogaeth gyhoeddus i ddiwallu gwahanol anghenion grŵp penodol, er enghraifft, darparu clinigau ychwanegol i aelodau o grŵp hil ag anghenion iechyd penodol y gwyddir amdanynt
  • darparu gwasanaethau sydd wedi eu bwriadu’n benodol i ddiwallu anghenion penodol, er enghraifft dosbarthiadau Saesneg, hyfforddiant, neu wasanaethau iechyd meddwl sy’n briodol yn ddiwylliannol neu grefyddol

Enghraifft

10.21 Mae sefydliad gwirfoddol yn cynnal grwpiau cefnogi i rieni sy’n gobeithio mabwysiadu. Er mwyn gwella’i waith, fe gynhaliodd y sefydliad arolwg o gyfranogwyr y grŵp yn y gorffennol a’r presennol. Canfu’r arolwg bod cyfranogwyr lesbiaidd a hoyw yn llai bodlon na rhieni eraill oherwydd, er eu bod yn rhannu yr un gofidiau â’r rhieni eraill, roedd ganddynt broblemau a phryderon eraill nad oeddent yn teimlo bod modd iddynt eu codi yn y grwpiau cymysg. Er mwyn diwallu eu hanghenion penodol, fe ychwanegodd y sefydliad grŵp cefnogi ar wahân ar gyfer rhieni lesbiaidd a hoyw oedd yn gobeithio mabwysiadu i’w raglen, y gallent ei fynychu yn ychwanegol at y grŵp cefnogi cymysg.

Camau gweithredu i annog cyfranogaeth mewn gweithgareddau

I ba weithgareddau mae hyn yn berthnasol?

10.22 Mae’r ddarpariaeth hon yn berthnasol i gyfranogaeth mewn unrhyw weithgaredd lle mae cyfranogaeth y sawl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn anghymesur o isel.. Mae’n cynnwys gweithgareddau a gyflawnir, a drefnir neu a hwylusir gan ddarparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas. Gallai gynnwys gweithgareddau chwaraeon, aelodaeth o bwyllgor cleifion lleol, neu fynychu lleoliadau neu ddigwyddiadau addysgol, diwylliannol neu adloniant. Gallai gynnwys pleidleisio mewn etholiadau lleol neu genedlaethol. Gallai hefyd olygu lefelau isel o fanteisio ar aelodaeth neu fuddion cymdeithas, neu o wasanaethau a chyfleusterau megis llyfrgelloedd, gwasanaethau hamdden a gwasanaethau i blant, pobl anabl neu bobl hŷn.

Beth mae ‘anghymesur o isel’ yn ei olygu?

10.23 Mae’r Ddeddf yn dweud y gellir ond gweithredu pan fo’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn credu’n rhesymol bod cyfranogaeth pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig benodol yn ‘anghymesur o isel’ (a.158(1)(c)). Golyga hyn y bydd angen i'r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas feddu ar rywfaint o arwyddion neu dystiolaeth bod cyfranogaeth ar ran y grŵp gwarchodedig hwnnw yn isel o’i gymharu â chyfranogaeth grwpiau eraill, neu o gymharu â lefel y gyfranogaeth y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol o bobl o’r grŵp gwarchodedig hwnnw. Gallai’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas seilio eu barn ar dystiolaeth empirig yn cynnwys data ystadegol neu, lle na bo hyn ar gael, ffurfiau mwy ansoddol o dystiolaeth sy’n deillio o, er enghraifft, ymgynghoriadau, arolygon neu adolygiadau.

Pa gamau ellid eu cymryd?

10.24 Nid yw’r Ddeddf yn cyfyngu ar y camau gweithredu y gall darparwyr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithasau eu cymryd i alluogi neu annog pobl sy’n rhannu’r nodwedd warchodedig i gyfranogi mewn gweithgaredd. Mae hyn ar yr amod bod y cam yn bodloni’r amodau statudol ac yn fodd cymesur o gyflawni’r nod a bennwyd o alluogi neu annog cyfranogaeth. Gallai camau o’r fath gynnwys:

  • hyfforddiant wedi ei dargedu at bobl â’r nodwedd warchodedig
  • ymestyn neu newid lleoliadau neu amseroedd er mwyn i weithgareddau gael eu cynnal
  • darparu gweithgareddau mewn gwahanol ffyrdd
  • gwella cynnwys a ffurfiau gwybodaeth, hysbysebion a chyngor a’u gwneud yn fwy perthnasol
  • defnyddio rhaglenni estyn allan a mentora   

Enghraifft

10.25 Does gan gerddorfa ieuenctid, sy’n cael ei rhedeg gan wasanaethau addysg yr awdurdod lleol, ddim cerddorion Affricanaidd Caribïaidd er bod poblogaeth Affricanaidd-Caribïaidd fawr yn yr ardal leol.  Yn hanesyddol, cafodd y gerddorfa broblemau gyda hiliaeth ymysg rhai o’i haelodau. Er mwyn ennyn cefnogaeth o fewn y gymuned Affricanaidd Caribïaidd, fe wnaeth yr awdurdod lleol ei hanoddefgarwch lwyr o ymddygiad hiliol yn glir i’w haelodau a staff a gwnaed hyfforddiant ar amrywiaeth yn fandadol i bob aelod o staff.

Gan ystyried y lefel isel dros ben o gyfranogiad ymysg aelodau o’r gymuned Affricanaidd Caribïaidd o fewn y gerddorfa, a’r rhesymau hanesyddol dros hyn, fe benderfynodd yr awdurdod lleol wedyn fynd gam ymhellach a defnyddio’r darpariaethau gweithredu cadarnhaol o dan y Ddeddf. Mae’n cydweithio â cherddorion Affricanaidd Caribïaidd amlwg er mwyn chwilio am gerddorion Affricanaidd Caribïaidd ifanc talentog. Mae’n cynnal treialon agored i bobl ifanc o’r gymuned hon, gan gynnig tiwtora am ddim cyfyngedig i’r cerddorion mwyaf talentog gyda’r nod o’u cynorthwyo i baratoi ar gyfer clyweliadau am lefydd yn y gerddorfa y tro nesaf y bydd llefydd ar gael.

Cyn belled â bod cred resymol bod cyfranogiad cerddorion Affricanaidd Caribïaidd yn anghymesur o isel a bod y camau gweithredu mae’r awdurdod lleol yn eu cymryd yn fodd cymesur o gyflawni’r nod o annog rhagor o gyfranogaeth, byddai hyn yn gam gweithredu cadarnhaol.

Gweithredu pan fo un neu ragor o’r amodau statudol yn berthnasol

10.26 Gellir gweithredu pan fo unrhyw un neu bob un o’r amodau statudol a restrir ym mharagraff 10.5 yn berthnasol. Weithiau bydd yr amodau yn gorgyffwrdd, er enghraifft, gallai pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig fod o dan anfantais a allai hefyd achosi angen gwahanol neu allai gael ei adlewyrchu yn eu lefel isel o gyfranogaeth mewn gweithgareddau penodol.

Enghraifft

10.27 Mae ymchwil yn awgrymu bod menywod yn profi anfanteision sylweddol wrth geisio dilyn gyrfaoedd llwyddiannus ym maes gwyddoniaeth, fel adlewyrchir yn eu cyfranogiad isel yn y proffesiwn, eu tangynrychiolaeth mewn rolau uwch o fewn y proffesiwn a’r ffaith bod llai o erthyglau wedi eu cyhoeddi ganddynt mewn cyfnodolion gwyddoniaeth amlwg. Un o’r ffactorau allweddol sy’n cyfrannu at hyn yw’r diffyg modelau rôl gweladwy. Mae cyhoeddwr cyfnodolion gwyddoniaeth blaengar yn sefydlu gwobr flynyddol ar gyfer ysgrifennu gwyddonol gan fenywod, er mwyn codi proffil menywod sy’n gweithio ym maes gwyddoniaeth ar hyn o bryd ac annog merched i’w ystyried fel gyrfa.

Byddai’r camau gweithredu a gymerir yma yn cael eu cymryd yn unol â nodau (a) a (c) o adran 158(2), sy’n gorgyffwrdd yn y sefyllfa hon. Cyn belled â’i bod yn rhesymol i feddwl bod yno anfantais i fenywod, cyfranogaeth anghymesur o isel a bod y cam gweithredu yn cael ei ystyried yn un cymesur, byddai creu’r wobr am ysgrifennu gwyddonol gan fenywod yn weithredu cadarnhaol cyfreithiol.

Enghraifft

10.28 Roedd heddlu lleol yn ymwybodol o’r diffyg adrodd ynglŷn â throseddau casineb gwrthsemitig. Fe’u cynghorwyd gan sefydliadau Iddewig bod gan eu haelodau lefelau isel o ymddiriedaeth yn yr heddlu ac fe deimlai nifer nad oedd cwynion ynglŷn â throseddau gwrth-semitig yn cael eu cymryd o ddifri.

Er mwyn darparu gwell amddiffyniad i’r gymuned Iddewig, fe sefydlodd yr heddlu dîm ymchwilio dynodedig wedi ei hyfforddi’n arbennig ac, ar y cyd â sefydliadau lleol, fe sefydlodd nifer o wahanol bwyntiau i adrodd am droseddau gwrth-semitig. Dangosodd monitro gyfraddau cynyddol o adrodd ar droseddau ac erlyn yn ogystal â gwell ymddiriedaeth yn yr heddlu ac ymdeimlad cynyddol o ddiogelwch ymysg y gymuned Iddewig.

Byddai hyn yn enghraifft o weithredu cadarnhaol oherwydd i’r heddlu gymryd camau a allai o bosib ffafrio un grŵp crefyddol yn fwy na grwpiau crefyddol eraill. Y cam gweithredu fyddai mynd i’r afael â dwy nod a amlinellwyd yn adran 158(2): lleihau’r anfantais a brofwyd gan aelodau’r gymuned Iddewig mewn perthynas ag adrodd ar droseddau, a galluogi neu annog cyfranogaeth wrth adrodd ar droseddau. Cyn belled â’i bod yn rhesymol i feddwl bod anfantais i aelodau o’r gymuned Iddewig o adrodd ar droseddau, yna byddai gweithredoedd yr heddlu, pe byddent yn gymesur yn y cyd-destun hwnnw, yn weithredu cadarnhaol cyfreithiol.

Natur wirfoddol gweithredu cadarnhaol

10.29 Mae gweithredu cadarnhaol yn opsiynol, ac nid yn ofynnol. Fodd bynnag, mae darparwyr gwasanaethau a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus sy’n cymryd camau gweithredu cadarnhaol yn aml yn gweld buddion ehangach i’w sefydliadau, megis gwell ansawdd a chyfranogiad mewn gwasanaethau neu gynnydd yn effeithlonrwydd ac ansawdd swyddogaethau cyhoeddus. Gall cymdeithasau gryfhau eu sylfaen aelodaeth a gwella’r buddion a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt i’w holl aelodau.

Gweithredu cadarnhaol am gyfnod penodol

10.30 Os yw gweithredu cadarnhaol yn parhau am gyfnod amhenodol, heb unrhyw adolygiad, mae’n bosibl na fydd bellach yn anghymesur, oherwydd fe allai’r camau a gymerwyd eisoes fod wedi unioni’r sefyllfa a fu’n sylfaen i weithredu cadarnhaol yn unol â’r amodau statudol. Gallai hyn ei gwneud yn anghyfreithlon i barhau â’r cam gweithredu.

10.31 Felly, tra’n ymgymryd â mesurau o dan y darpariaethau gweithredu cadarnhaol, cynghorir darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau i fynegi eu bwriad i weithredu dim ond tra bo’r amod(au) statudol perthnasol yn weithredol, yn hytrach nag am gyfnod amhenodol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe ddylent fonitro effaith eu cam gweithredu ac adolygu cynnydd tuag at eu nod.

Enghraifft

10.32 Fe nododd coleg harddwch preifat, er iddynt geisio gwahanol ffurfiau o hysbysebu, mai ychydig iawn o’u myfyrwyr oedd o’r gymuned Fangladeshaidd fawr leol. Aeth pennaeth y coleg allan i gwrdd â grwpiau Bangladeshaidd a chlybiau cymunedol er mwyn hyrwyddo’r coleg. Fe benderfynodd y coleg gynnig cwrs blasu dwy awr o hyd am ddim i bobl Bangladeshaidd yn unig. Arweiniodd hyn at gynnydd yn y nifer o fyfyrwyr Bangladeshaidd. Gan nad yw cofrestriadau Bangladeshaidd bellach yn anghymesur o isel, nid oes sail o dan y Ddeddf bellach i’r coleg barhau â’r mesur gweithredu cadarnhaol hwn.

Gweithredu cadarnhaol ac anabledd

10.33 Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl mewn perthynas â gwahaniaethu uniongyrchol (a.13(3)). Mae’r eithriad hwn ond yn berthnasol i bobl anabl. Felly, nid yw’n wahaniaethu uniongyrchol os yw darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw’n anabl. Golyga hyn y gall darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas ddewis darparu gwasanaethau i bobl anabl yn unig a bydd hyn yn gyfreithiol.

10.34 Fodd bynnag, gallai’r darpariaethau gweithredu cadarnhaol barhau i fod yn briodol er mwyn sicrhau cydraddoldeb cyfle rhwng pobl anabl â gwahanol amhariadau. Golyga hyn y gall darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas weithredu mesurau gweithredu cadarnhaol er mwyn goresgyn anfantais, diwallu gwahanol anghenion neu gynyddu cyfranogaeth pobl ag un amhariad ond nid y sawl sydd ag amhariadau eraill.

Enghraifft

10.35 Mae theatr wedi cynnal dadansoddiad o’r bobl sy’n mynychu’r theatr ac wedi gweld bod y nifer o bobl Fyddar yn eu cynulleidfaoedd yn anghymesur o isel. Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd addasiad rhesymol, mae’r theatr yn amserlennu arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer perfformiadau penodol o ddrama newydd. Yn ystod y bythefnos gyntaf, mae cwsmeriaid Byddar, ond nid cwsmeriaid ag amhariadau eraill, yn cael cynnig gostyngiad o 15 y cant ar gyfer y perfformiadau ag arwyddwr. Gwneir hyn yn hysbys gan y gymuned Fyddar.

Cyn belled â bod cred resymol bod y niferoedd o bobl Fyddar yn y cynulleidfaoedd yn anghymesur o isel a bod y camau gweithredu a gymerir er mwyn annog eu cyfranogaeth uwch yn gymesur, byddai hyn yn gam gweithredu cadarnhaol cyfreithiol.

Gweithredu cadarnhaol a dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus

10.36 Gallai awdurdodau lleol a’r sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ddymuno defnyddio gweithredu cadarnhaol i’w cynorthwyo i gydymffurfio â’r dyletswyddau hynny (a.149(1) a (3)).

Pleidiau gwleidyddol a gweithredu cadarnhaol

10.37 Mae’r Ddeddf yn cydnabod bod grwpiau penodol sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol wedi eu tangynrychioli ymysg penderfynwyr a etholwyd. Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau arbennig sy’n galluogi pleidiau gwleidyddol i gymryd camau gweithredu cadarnhaol wrth ddewis ymgeiswyr er mwyn lleihau anghydraddoldeb yn eu cynrychiolaeth ar gyrff etholedig perthnasol (a.104). Trafodir hyn ym mharagraffau 12.78 i 12.83.

Cyflwyno gweithredu cadarnhaol yn gyfreithiol

10.38 Er mwyn adnabod achosion posibl anfantais, gwahanol anghenion a thangynrychiolaeth, ac er mwyn datblygu mesurau gweithredu cadarnhaol priodol, bydd darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn elwa o ymglymiad aelodau o grwpiau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol. Bydd cyfraniad grwpiau o’r fath hefyd yn elwa’r gwerthusiad o fesurau gweithredu cadarnhaol.

10.39 Er mwyn sicrhau bod unrhyw fesurau gweithredu cadarnhaol arfaethedig maent yn eu cynnig yn gyfreithiol, dylai darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau ystyried llunio cynllun gweithredu sy’n amlinellu:

  • tystiolaeth o’r anfantais, anghenion penodol neu lefelau cyfranogaeth anghymesur o isel, fel bo’n briodol, a dadansoddiad o’r achosion 
  • pa nod a bennwyd y mae’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas, yn ceisio’i gyflawni gan roi manylion ynghylch y canlyniadau penodol arfaethedig
  • y cam(au) penodol maent yn bwriadu ei gymryd er mwyn gwireddu’r canlyniad a ddymunir, yn unol â’r nod(au) a bennwyd perthnasol
  • asesiad o gymesuredd y cam(au) gweithredu
  • y camau mae’r darparwr gwasanaeth, person sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus neu gymdeithas yn penderfynu eu cymryd er mwyn cyflawni’r nod(au) a bennwyd
  • dangosyddion cynnydd mesuradwy tuag at y nodau hynny a bennwyd, wedi eu gosod yn erbyn amserlen

Cynghorir darparwyr gwasanaeth, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau i gadw rhyw fath o gofnod ysgrifenedig yn cynnwys yr wybodaeth hon.

10.40 Er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth a chefnogaeth i’w gweithredu, mae’n bwysig bod darparwyr gwasanaethau, y sawl sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau yn agored, yn esbonio pam bod camau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cymryd ac yn gyfreithiol. Dylai’r esboniad hwnnw gynnwys y sail ar gyfer cynnig camau gweithredu cadarnhaol penodol o fewn cyfnod amser penodol.

Enghraifft

10.41 Mewn ymateb i dystiolaeth ynglŷn â phrofiadau negyddol menywod deurywiol a lesbiaidd gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, edrychodd ysbyty ar sut i wella’r gwasanaethau iechyd i’r grŵp hwn o fenywod. Fe wnaethant gynhyrchu cyfres o bosteri a gynlluniwyd i annog menywod lesbiaidd a deurywiol i gael mynediad i wasanaethau iechyd, yn cynnwys gwybodaeth ar yr hyn y dylent wneud pe byddent yn cael profiad gwael. Fe esboniwyd amcanion yr ymgyrch bosteri a sut i ymateb i unrhyw ymholiadau neu gwynion gan gleifion eraill wrth staff mewn cymorthfeydd oedd yn arddangos y posteri. Fe wnaeth hyn alluogi staff i ddelio’n effeithiol ag unrhyw gwestiynau neu bryderon a godwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau.

Pennod 10 troednodiadau

  1. R (Z ac un arall) v Hackney London Council Borough Council ac un arall [2020] Mae UKSC 40 yn cadarnhau bod y dull pedwar cam o ymdrin â chymesuredd fesul Akerman-Livingstone v Aster Communities Ltd [2015]3; Bank Mellat [2013] Mae UKSC 39 yn berthnasol yng nghyd-destun gweithredu cadarnhaol

Diweddariadau tudalennau