Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi arwyddo cytundeb cyfreithiol gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ar ôl pryderon am ddiwylliant gweithle nad oedd yn amddiffyn staff yn ddigonol rhag gwahaniaethu ac aflonyddu.
Mae'r cytundeb cyfreithiol rwymol yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i URC ei wneud i wella ei bolisïau, ei arferion a'i ddiwylliant yn y gweithle er mwyn amddiffyn ei weithwyr rhag gwahaniaethu ac aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.
Daw ar ôl i adolygiad annibynnol ganfod bod agweddau o ddiwylliant y gweithle yn URC yn ‘wenwynig’, ac nad oedd rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia yn cael eu herio’n ddigonol. Canfu’r adolygiad hefyd dystiolaeth o fwlio a gorddibyniaeth ar gytundebau peidio â datgelu (NDAs) i atal gweithwyr rhag rhannu eu profiadau.
O dan delerau’r cytundeb, mae URC wedi ymrwymo i:
- cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) ar gyfer yr holl gyflogeion, aelodau bwrdd, rheolwyr ac uwch arweinwyr
- cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar aflonyddu ac ymdrin â chwynion o aflonyddu rhywiol ar gyfer rheolwyr pobl
- gweithio gyda chynghorydd allanol i adolygu a diwygio ei bolisïau gweithle corfforaethol, gan gynnwys polisi aflonyddu rhywiol penodol
- cyflwyno system safonol i gofnodi a monitro cwynion gwahaniaethu ac aflonyddu
- adolygu'r defnydd o NDA
- gweithredu'r holl argymhellion sy'n weddill o'r adolygiad annibynnol
Mae camau gweithredu allweddol eraill sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r cytundeb yn cynnwys cynllun cyflawni EDI a strategaeth bum mlynedd, gydag uwch swyddogion gweithredol ag amcanion penodol sy'n ymwneud ag EDI yn eu targedau perfformiad blynyddol. Bydd tîm pobl URC yn lansio arolygon pwls rheolaidd yn gofyn i gyflogeion am faterion amrywiaeth a chynhwysiant, a bydd yn monitro'r ymatebion i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau.
Mae'r camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys yn y cytundeb wedi'u cynllunio i fod yn ffyrdd cyraeddadwy ac effeithiol o wreiddio atal gwahaniaethu ac aflonyddu yn URC. Bydd yr EHRC yn monitro cwblhau’r camau gweithredu yn y cytundeb, gyda llawer ohonynt eisoes ar waith.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Mae gan bawb yr hawl i weithle lle maen nhw’n rhydd o wahaniaethu ac aflonyddu. Mae cyflogwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu polisïau a'u harferion yn amddiffyn eu cyflogeion ac yn creu diwylliant gweithle lle gall staff ffynnu heb ofn.
Fel corff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol Cymru, mae’r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl y safonau uchaf gan URC. Mae’r cytundeb cyfreithiol hwn yn gam cyntaf pwysig wrth i URC ailadeiladu ymddiriedaeth ei staff a’r genedl ehangach, ac rydym yn falch bod URC eisoes wedi dechrau gwneud cynnydd ar y camau gweithredu gofynnol."