Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi rhyddhau dros 200 o asesiadau heddiw i weld a yw’r llywodraeth ganolog a Chymru wedi cymryd camau i fynd i’r afael ag argymhellion hawliau dynol a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig.
Yn gynwysedig mae dros 140 o asesiadau o gamau gweithredu llywodraeth ganolog a dros 60 o asesiadau o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar faterion datganoledig. Maent yn rhychwantu ystod o faterion hawliau dynol, o addysg i hawliau pleidleisio.
Bydd yr EHRC yn diweddaru'r Traciwr Hawliau Dynol gydag asesiadau newydd o bryd i'w gilydd.
Yn nodedig yn yr asesiadau Traciwr roedd:
- cyflwyno darn sylweddol o ddeddfwriaeth – Deddf Diogelwch Ar-lein y DU 2003 – i helpu i atal bwlio ar-lein yn ogystal â chynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i atal aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid mewn lleoliadau addysg
- rhywfaint o gamau tuag at ddiweddaru'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn unol ag argymhelliad y Cenhedloedd Unedig
- diffyg gweithredu gan lywodraethau canolog a Chymru i wahardd y defnydd o ataliaeth mewn lleoliadau addysgol
- diffyg gweithredu gan lywodraethau canolog a Chymru i gyflwyno dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu cyllid i rieni plant byddar sy’n dymuno dysgu iaith arwyddion
Mae’r Traciwr Hawliau Dynol hwn yn un o’r ffyrdd niferus y mae’r EHRC yn monitro cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU. Mae dulliau eraill yn cynnwys monitro cytuniad y Cenhedloedd Unedig. Ym mis Chwefror, er enghraifft, bydd yr EHRC yn cyhoeddi cyflwyniad i’r Cenhedloedd Unedig ar gydymffurfiaeth y DU â’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am sut mae hawliau perthnasol yn cael eu mwynhau a beth sydd wedi newid ers yr adolygiad yn 2016.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae ein Traciwr Hawliau Dynol yn offeryn ar-lein unigryw sy’n caniatáu i bawb fonitro statws materion hawliau dynol allweddol yn y DU.
“Heddiw, rydyn ni’n rhyddhau dros 200 o asesiadau o’r camau y mae’r llywodraeth ganolog a Chymru yn eu cymryd – neu ddim yn eu cymryd – i fynd i’r afael â’r materion hawliau dynol a amlygwyd gan y Cenhedloedd Unedig.
“Bydd ein hymagwedd newydd yn caniatáu iddyn nhw a’r cyhoedd ddefnyddio’r asesiadau hyn i gadw golwg ar yr hyn sydd angen ei wneud i weithredu rhwymedigaethau rhyngwladol a gwella hawliau dynol ym Mhrydain.”
Ers ei lansio yn 2019, mae Traciwr Hawliau Dynol yr EHRC wedi darparu gwybodaeth bwysig ar ba mor dda y mae llywodraethau canolog a Chymru wedi rhoi eu rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol ar waith.
Mae'r EHRC bellach yn addasu dull asesu'r Traciwr fel y gall pobl weld yn hawdd y camau a gymerwyd yn erbyn argymhellion y Cenhedloedd Unedig, a pha waith sy'n weddill.
Bydd y Traciwr Hawliau Dynol yn offeryn defnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hawliau dynol, gan annog monitro argymhellion, cymryd camau i’w gweithredu, a gwneud Prydain yn lle tecach i bawb.
Nodiadau i Olygyddion:
Mae heddiw yn nodi cyfnod newydd ym mhrif offeryn monitro hawliau dynol y Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol. Bydd yr asesiadau yn y Traciwr nawr yn canolbwyntio ar y camau y mae'r llywodraeth ganolog a Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd neu heb eu cymryd mewn ymateb i argymhellion pwyllgor y Cenhedloedd Unedig.
Yr uchelgais y tu ôl i’r newid hwn mewn methodoleg yw pontio’r bwlch rhwng argymhellion y Cenhedloedd Unedig, sy’n ystyried pynciau’n amrywio o dai digonol i hawliau pleidleisio, a llunio polisïau a deddfwriaeth y llywodraeth.
I weld y camau a gymerwyd gan lywodraethau canolog a Chymru i wella hawliau dynol, yn erbyn yr argymhellion a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig, gweler ein Traciwr Hawliau Dynol.
I gael darlun llawnach o gydymffurfiaeth y DU â rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol a mwynhad o hawliau dynol, gweler hefyd ein hadroddiadau monitro cytuniadau, Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2023, A yw Cymru'n Decach 2023 a chyngor i lywodraethau a seneddau.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com