Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“ Rydym yn croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg y bydd gweithredu sawl darpariaeth yn y Ddeddf Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru) yn mynd rhagddo.
“Mae mynegiant rhydd a chyfnewid gwahanol safbwyntiau, heb erledigaeth nac ymyrraeth, wrth galon ein democratiaeth. Ym Mhrydain rydym yn mwynhau amddiffyniadau hawliau dynol sylweddol i arddel ein barn ein hunain a'u mynegi'n rhydd. Mae'r gwerthoedd a'r amddiffyniadau hyn hefyd yn rhan hanfodol o addysg uwch. Mae cynnal dadleuon agored, heriol, yn hytrach na thawelu barn y rhai nad ydym yn cytuno â nhw, yn helpu i feithrin goddefgarwch a mynd i’r afael â rhagfarn a gwahaniaethu.
“Dylid cynnal rhyddid mynegiant mewn addysg uwch ar bob cyfle a dylid ei gyfyngu dim ond pan fo pryderon diogelwch gwirioneddol, neu lle mae’n gyfystyr ag ymddygiad anghyfreithlon. Felly mae cychwyn rhai gofynion o fewn y Ddeddf – gan gynnwys y ddyletswydd ar sefydliadau i hybu rhyddid i lefaru a chymryd camau rhesymol ymarferol i sicrhau rhyddid i lefaru o fewn y gyfraith – yn gam pwysig ymlaen.
“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, a’r Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr, byddwn yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Myfyrwyr (OfS) ar reoleiddio’r dyletswyddau newydd hyn.
“Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol heddiw hefyd y bydd y llywodraeth yn diwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r cynllun cwynion newydd, fel bod gan y Swyddfa Myfyrwyr y pŵer, yn hytrach na dyletswydd, i ystyried pob cwyn ac i osod amod cofrestru ar ryddid i lefaru a rhyddid academaidd.
“Mae’n hanfodol bod gan unigolion lwybr clir i unioni cam lle maent yn credu y gallai eu hawl i ryddid mynegiant fod wedi’i gyfyngu’n anghyfreithlon.
“Er y gallant gyflwyno honiad o wahaniaethu ar sail cred athronyddol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar hyn o bryd, gall camau cyfreithiol o’r fath fod yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser. Mae’n bwysig bod y Ddeddf Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru) yn darparu ar gyfer llwybrau addas i unioni yn y sector hwn.”
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com