Dywedodd Lesley Sawers OBE, Dirprwy Gadeirydd a Chomisiynydd yr Alban yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Rydym yn bryderus iawn ynglŷn â chanfyddiadau adroddiad newydd Comisiwn Lles Meddwl yr Alban, ‘Hospital is not home’, sy’n rhoi mewnwelediad mawr ei angen i brofiadau pobl sydd wedi’u cadw yn yr ysbyty ers dros 10 mlynedd.
“Mae cydymffurfiaeth briodol â’r fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb yn hollbwysig ym mhob lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud penderfyniadau am eu gofal a byw’n annibynnol.
“Mae’r defnydd o drefniadau ‘anffurfiol’, a nodir yn yr adroddiad hwn, yn hytrach na gweithdrefnau a ragnodir o dan Ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl neu Analluogrwydd, yn peri pryder arbennig. Amlygwyd hyn yn y camau cyfreithiol a gymerwyd gennym yn 2020 yn erbyn GIG Greater Glasgow a Clyde am hwyluso cadw’n anghyfreithlon.
“Mae canfyddiadau’r Comisiwn Lles Meddwl bod niferoedd uchel o gleifion heb eu cofnodi yn ‘byw’ mewn ysbytai ers dros 10 mlynedd, ac mewn rhai achosion hyd at 25 mlynedd, yn codi cwestiynau ynghylch a yw’r cyrff cyhoeddus dan sylw yn methu â chyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
“Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, rydym hefyd yn bryderus ynghylch yr ymdrechion cyfyngedig a wnaed i ddarparu cymorth eiriolaeth arbenigol i bobl mewn ysbytai am gyfnodau estynedig yn yr Alban, gan fod hyn yn awgrymu y gallai’r cyrff cyhoeddus dan sylw fod yn methu â gweithredu yn y modd ‘rhagweladwy’ sy’n ofynnol i fodloni dyletswydd addasiadau rhesymol y Ddeddf Cydraddoldeb.
“Mae’n amlwg o’r canfyddiadau hyn nad yw Strategaeth ‘Coming Home’ Llywodraeth yr Alban eto wedi llwyddo yn ei nod o sicrhau mai dim ond cyhyd ag y bydd angen triniaeth y mae pobl yn yr ysbyty.
“Rydym yn annog Llywodraeth yr Alban a’r holl asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol i roi sylw manwl i’r canfyddiadau hyn a chymryd camau brys i sicrhau cydymffurfiaeth briodol â gofynion cyfreithiol cydraddoldeb.”
Darllenwch adroddiad Comisiwn Lles Meddwl yr Alban: 'Hospital is not Home' (gwefan allanol) - cyhoeddwyd 28 Ionawr 2025
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com