Newyddion

Datganiad EHRC wrth i Ddeddf Diogelu Gweithwyr ddod i rym

Wedi ei gyhoeddi: 26 Hydref 2024

Dywedodd John Kirkpatrick, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Heddiw, bydd y Ddeddf Diogelu Gweithwyr yn cyflwyno dyletswyddau ataliol newydd i gyflogwyr ynghylch aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Rydym yn croesawu’r mesurau diogelu hanfodol hyn sy’n dod i rym.

“Mae aflonyddu rhywiol yn parhau i fod yn eang ac yn aml nid yw'n cael ei adrodd yn ddigonol. Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn y gwaith.

“Nod y ddyletswydd ataliol newydd yw gwella diwylliannau’r gweithle drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr amddiffyn eu gweithwyr yn rhagweithiol rhag aflonyddu rhywiol.

“Bydd angen i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i ddiogelu eu gweithwyr. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau i sicrhau eu bod yn deall eu rhwymedigaethau a'r mathau o gamau y gallant eu cymryd.

“Byddwn yn monitro cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd newydd ac ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi lle bo angen.”

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com