Newyddion

EHRC yn cyhoeddi datganiad ar gydymffurfiaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Wedi ei gyhoeddi: 9 Hydref 2024

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd 100 y cant o gydymffurfiaeth ag adroddiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer eleni (2023-24).

Dim ond chwe sefydliad a fethodd y dyddiad cau o 4 Ebrill eleni, ac mae pob un wedi adrodd ar eu data wedi hynny, neu wedi datgan eu bod y tu allan i’r cwmpas.

“Mae’r data hanfodol hwn yn gam cyntaf pwysig ar y ffordd i sicrhau nad yw gweithleoedd yn gwahaniaethu yn erbyn staff benywaidd, a gobeithiwn y bydd cyflogwyr yn defnyddio’r data hwn nid yn unig i fod yn dryloyw, ond i lywio’r camau y mae angen iddynt eu cymryd i gau’r bylchau cyflog rhwng y rhywiau o fewn eu gweithlu hefyd.

“Rydym yn hyderus y byddwn yn parhau i weld adroddiadau llawn erbyn diwedd y flwyddyn nesaf (2024-25), gyda’n dulliau gorfodi effeithiol yn sicrhau bod cwmnïau’n parhau i ddarparu’r data hanfodol hwn.”

Nodiadau i olygyddion

  1. Ochr yn ochr â’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig, cyhoeddodd yr EHRC ganllawiau i helpu sefydliadau i ysgrifennu eu cynllun gweithredu eu hunain ar gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
  2. Yn 2022-23, methodd wyth sefydliad ag adrodd ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau erbyn y dyddiad cau, sef 4 Ebrill. Yn dilyn gweithredu gan y Comisiwn, adroddodd yr holl sefydliadau hynny am eu bylchau cyflog.
  3. Mae’r EHRC yn cyhoeddi hysbysiadau rhybuddio yn uniongyrchol i sefydliadau sy’n adrodd eu data bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn hwyr. Rydym hefyd yn cyhoeddi enwau’r sefydliadau hynny sy’n adrodd ar eu data yn hwyr. O dan y dull hwn, mae pob sefydliad wedi adrodd ar eu data yn ystod yr un flwyddyn, neu wedi datgan eu bod y tu allan i gwmpas y rheoliadau adrodd cyn i ni orfod mynd drwy'r llysoedd i roi dirwyon. Mae hyn yn dangos ei fod yn ateb effeithiol ar gyfer sicrhau bod cwmnïau'n parhau i ddarparu'r data hanfodol hwn. Ni roddwyd unrhyw gosbau na dirwyon hyd yma.
  4. Mae’r EHRC yn ymwybodol o faterion sy’n ymwneud â data a ddrwgdybir ei fod yn anghywir a ddarparwyd gan rai sefydliadau, a bydd yn gwneud asesiad cymesur ac yn gwneud gwaith dilynol gyda chyflogwyr sy’n darparu data o ansawdd gwael.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com