Mae Teithiwr Gwyddelig wedi derbyn setliad wedi honiad o wahaniaethu yn ei erbyn pan wrthododd tafarn yng Nghaerdydd gynnal Bedydd ei ferch.
Cefnogodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr achos, a ddaeth yn dilyn digwyddiad yn nhafarn y Three Horseshoes yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
Dywedwyd wrth y dyn, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, na allai gynnal Bedydd yn y dafarn oherwydd ei fod yn aelod o gymuned y Teithwyr.
Yn dilyn hawliad am wahaniaethu uniongyrchol ar sail ei hil, cytunodd tafarn y Three Horseshoes i setlo gyda’r hawlydd. Nid yw'r setliad yn cynnwys cyfaddefiad atebolrwydd ar ran y dafarn.
Mae tafarn y Three Horseshoes wedi ymrwymo i ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cynrychiolwyd yr hawlydd gan Nick Webster, o Leigh Day. Darparodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gyllid a chymorth.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Fel rheoleiddiwr cydraddoldeb Prydain, rydym yn codi ymwybyddiaeth o wahaniaethu ar sail hil a sut y gellir ei atal. Dylai pob busnes sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd ddeall eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i amddiffyn eu cwsmeriaid a'u staff rhag gwahaniaethu ar sail nodwedd warchodedig.
“Rwy’n falch bod ein hymdrechion wedi arwain at ddatrysiad cadarnhaol i’r hawlydd hwn, gan daflu goleuni ar fater sy’n dal i gael ei brofi gan ormod o bobl ym Mhrydain, a helpu darparwyr gwasanaethau i ddeall gwahaniaethu a sut y gallant ei atal.”