Newyddion

Cyllid ar gael i sefydliadau ym Mhrydain i roi tystiolaeth i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol

Wedi ei gyhoeddi: 4 Tachwedd 2024

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnig cyllid o hyd at £7,500 i sefydliadau cymdeithas sifil lluosog ym Mhrydain i ddarparu tystiolaeth bersonol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol i lywio ei 7fed adolygiad cyfnodol o’r Deyrnas Unedig. Rhagwelir y cynhelir y sesiwn dystiolaeth rhwng 10 a 28 Chwefror 2025.

Nod y prosiect hwn yw galluogi sefydliadau cymdeithas sifil i gymryd rhan yn archwiliad y Pwyllgor o gydymffurfiaeth y DU â'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) .

Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i sefydliadau cymdeithas sifil rannu tystiolaeth yn uniongyrchol â’r Pwyllgor yng Ngenefa, a fydd wedyn yn llywio eu hadroddiad a’u hargymhellion. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd(ymgeiswyr) llwyddiannus ddarparu adroddiad ysgrifenedig o fewn tair wythnos i'r sesiwn dystiolaeth yn manylu ar effaith eu cyfranogiad.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus:

  • Dangos ffocws gweithredol ar yr hawliau a gynhwysir yn yr ICESCR

  • Cadarnhau eu bwriad i ddarparu cyflwyniad ysgrifenedig ar sail tystiolaeth ar gydymffurfiaeth y DU â’r ICESCR i’r Pwyllgor erbyn dyddiad cau’r Cenhedloedd Unedig, sef 13 Ionawr 2025, a darparu tystiolaeth o hyn cyn y sesiwn

  • Cadarnhau eu bwriad i gofrestru gydag Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor i gymryd rhan yn y sesiwn erbyn terfyn amser y Cenhedloedd Unedig a darparu tystiolaeth o hyn cyn y sesiwn. Ceir manylion ar wefan y Cenhedloedd Unedig

  • Darparu dystiolaeth eu bod yn cynrychioli un endid cyfreithiol cofrestredig yn y DU, megis cwmni neu elusen

  • Cytuno i'n telerau ac amodau fel y nodir

Ochr yn ochr â’r amodau gofynnol uchod, byddwn yn ystyried sut mae pob ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf canlynol i sicrhau y bydd cyfranogiad yn:

  • Gwella amrywiaeth cynrychiolaeth unigolion ag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig

  • Galluogi cyfranogiad unigolion sydd â phrofiad o fyw sy'n berthnasol i ICESCR

  • Galluogi cyfranogiad sefydliadau na fyddent fel arall yn gallu bod yn bresennol

Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu yn ôl yr amodau a'r meini prawf a chan ystyried sut i sicrhau cynrychiolaeth o bob rhan o Brydain.

Sut i wneud cais

  • Rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 11yh ddydd Sul 1 Rhagfyr 2024.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio neu i ofyn am ffurflen gais, anfonwch e-bost at: Matthew.McArdle@equalityhumanrights.com

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com