Newyddion

Datganiad yn dilyn barn y Fonesig Haldane ar ddeiseb For Women Scotland Ltd am adolygiad barnwrol

Wedi ei gyhoeddi: 14 Rhagfyr 2022

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithio i hyrwyddo a chynnal deddfau cydraddoldeb Prydain.

“Mae hyn yn golygu bod gennym ddyletswydd i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei dehongli’n glir ac yn gywir, yn enwedig – fel yn yr achos hwn – Deddf Cydraddoldeb 2010. Gall y gyfraith sy’n ymwneud â rhyw a rhywedd fod yn gymhleth, ac mae eglurder yn hanfodol i’r cyrff cyhoeddus, cyflogwyr, darparwyr gwasanaethau a phobl ledled y wlad sy'n dibynnu arno.

“Rydym yn croesawu’r dyfarniad hwn sy’n cadarnhau mai effaith Tystysgrif Cydnabod Rhywedd yw newid rhyw cyfreithlon person, gan gynnwys at ddibenion y Ddeddf Cydraddoldeb.

“Byddwn yn cymryd canlyniad yr adolygiad barnwrol hwn, a phob dyfarniad cyfreithiol arall, i ystyriaeth yn ein gwaith parhaus fel rheoleiddiwr y Ddeddf Cydraddoldeb.”

Nodiadau i Olygyddion:

  • Cafodd y CCHD ei enwi yn yr achosion hyn fel parti â diddordeb. Cyfeiriwyd hefyd at ein canllawiau Gwasanaethau Rhyw Sengl, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022, yn yr adolygiad barnwrol.
  • Roedd yr achos hwn yn ymwneud ag effaith gyfreithiol Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC), fel y mae’r gyfraith ar hyn o bryd, ac a yw canllawiau statudol diwygiedig Llywodraeth yr Alban ar Ddeddf Cynrychiolaeth Rhywiol ar Fyrddau Cyhoeddus (yr Alban) 2018 yn gyfreithlon. Nid oedd yn ystyried y rheolau na'r broses y mae person yn ei defnyddio i gael GRC.
  • Yn gynharach eleni, heriodd For Women Scotland yn llwyddiannus drwy adolygiad barnwrol y diffiniad o “fenyw” yn adran 2 o Ddeddf Cynrychiolaeth Rhywiol ar Fyrddau Cyhoeddus (Yr Alban) 2018 a’r canllawiau gwreiddiol cysylltiedig.
  • Ar hyn o bryd nid oes diffiniad o “fenyw” wedi’i nodi yn Neddf Byrddau Cyhoeddus (yr Alban) 2018, felly mae gan “fenyw” yr un ystyr yn Neddf 2018 ag sydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
  • O dan Adran 11 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae rhyw yn nodwedd warchodedig ac yn ddeuaidd (cyfeiriad at ddyn neu fenyw). Mae adran 212 o’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio “menyw” fel menyw o unrhyw oedran.
  • Diben Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 yw darparu mecanwaith i alluogi pobl a aned o un rhyw i gael statws cyfreithiol y rhyw arall.

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com