Yn dilyn y newyddion y mis diwethaf ein bod wedi cadw ein statws A fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, mae Cynghrair Byd-eang y Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol (GANHRI) bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad llawn ar yr holl sefydliadau a adolygodd y sesiwn hon.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys yr argymhellion a wnaed ym mhob adolygiad cyfnodol i gryfhau gwaith pob sefydliad a aseswyd.
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd y Farwnes Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Rydym yn falch iawn o gael ein hail-achredu fel sefydliad ‘statws A’ ac yn croesawu’r adroddiad hwn a’r argymhellion a gyhoeddwyd gan GANHRI heddiw.
“Mae’n rhoi cydnabyddiaeth glir o’n statws fel amddiffynwr annibynnol dros hawliau dynol ac yn dangos ein bod yn gosod esiampl bwerus ar y llwyfan byd-eang.
“Mae amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol wrth wraidd popeth a wnawn. Dyna pam rwy’n falch o weld yr argymhellion yn ein gwahodd i barhau â’n gwaith craidd, ceisio cryfhau ein pwerau a’n sefydliad ymhellach, a pharhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.”
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae ein hymateb llawn i’r argymhellion o’r sesiwn hon ar gael i’w ddarllen mewn llythyr a rannwyd gennym gyda’r Is-bwyllgor Achredu ddydd Llun 7 Tachwedd 2022
- Mae’r adroddiad a’r argymhellion gan GANHRI i’w gweld ar wefan y Cenhedloedd Unedig
- I grynhoi, maent yn gwahodd y CCHD i:
- Ehangu ein mandad amddiffyn hawliau dynol
- Parhau i fynd i'r afael â materion hawliau dynol ar draws yr holl feysydd perthnasol
- Cydweithio â sefydliadau cymdeithas sifil
- Sicrhau plwraliaeth ac amrywiaeth yn ein haelodaeth bwrdd
- Eiriol dros ffurfioli proses ddethol a phenodi ein Comisiynwyr
- Eiriol dros ddiwygiadau ynghylch y darpariaethau ar gyfer diswyddo Comisiynwyr
- Eiriol dros fwy o ymreolaeth ariannol oddi wrth y llywodraeth ganolog
- O bryd i'w gilydd mae GANHRI yn adolygu ac yn achredu Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRIs) bob rhyw bum mlynedd. Cafodd y CCHD ei ailachredu ddiwethaf fel NHRI ‘statws A’ yn 2015, a chyn hynny yn 2008.
- Asesir NHRI yn erbyn Egwyddorion Paris. Mae'r rhain yn gofyn iddynt:
- Bod yn gymwys i hyrwyddo a diogelu hawliau dynol
- Bod â mandad cyfansoddiadol a deddfwriaethol eang, clir
- Cyflwyno cyngor ar faterion hawliau dynol i'r llywodraeth a'r Senedd
- Cydweithredu â'r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau rhyngwladol eraill i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol
- Hyrwyddo addysg hawliau dynol mewn ysgolion, prifysgolion a chylchoedd proffesiynol
- Mynd i'r afael â phob math o wahaniaethu drwy gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o hawliau dynol
- Sicrhau cynrychiolaeth luosog yn ei benodiadau
- Cael cyllid digonol
- Bod yn annibynnol wrth wneud penderfyniadau a gweithredu
- Mae rhagor o wybodaeth am Egwyddorion Paris ar gael ar wefan y Cenhedloedd Unedig
- Mae dwy lefel o achrediad, gan raddio cydymffurfiaeth NHRI ag Egwyddorion Paris:
- 'A' – cydymffurfio'n llawn
- 'B' – cydymffurfio'n rhannol
- Mae NHRI nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu graddio fel rhai 'heb eu hachredu'.
- Roedd hon yn sesiwn ail-achredu arferol ar gyfer y Comisiwn. O ganlyniad i alwadau am adolygiad arbennig o'n statws yn gynharach eleni ni chymerwyd unrhyw gamau gan y GANHRI.