Last updated: 13 September 2019
Ym mis Awst 2015, cyhoeddodd y Llywodraeth fersiwn wedi’i diweddaru o’i ‘Pholisi cynllunio ar gyfer safleoedd Teithwyr’. Newidiwyd y diffiniad o ‘Sipsiwn a Theithwyr’ fel nad yw bellach yn cynnwys y rhai sydd wedi rhoi’r gorau i deithio’n barhaol am unrhyw reswm, megis oherwydd henaint neu anabledd.
Mae’r ymchwil hwn yn edrych ar sut mae’r diffiniad diwygiedig hwn yn effeithio ar sut y penderfynir ar geisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd Teithwyr a’r ffordd y mae awdurdodau cynllunio lleol (ACLl) yn cynllunio ar gyfer darparu lleiniau Sipsiwn a Theithwyr yn Lloegr.
Mae’n canfod, ers y newid yn y diffiniad, bod asesiadau ACLl o faint o leiniau y byddai eu hangen wedi gostwng bron 75%. Mae’r dull o ymdrin â pholisïau cynllunio yn anghyson ar draws ACLlau.