Including furloughed employees in gender pay gap reporting welsh
Published: 7 January 2021
Last updated: 7 January 2021
What countries does this apply to?
- England
- Scotland
- Wales
Ar gyfer y flwyddyn adrodd 2020 i 2021
Yr hyn mae’r canllaw hwn yn ei gynnwys
Darpara’r canllaw hwn wybodaeth ar adrodd am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer cyflogwyr sydd efallai wedi cael newidiadau i’w gweithluoedd o ganlyniad coronafeirws (COVID-19).
Mae’n berthnasol i’r flwyddyn adrodd 2020 i 2021, sydd yn defnyddio ciplun dyddiad o 31 Mawrth 2020 neu 5 Ebrill 2020.
Canfyddwch ba ddyddiad ciplun sydd yn berthnasol i chi ar wefan GOV.UK
Os oes gofyn i chi gyflwyno’ch gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer blwyddyn adrodd 2020 i 2021, rhaid i chi gynnwys pob cyflogai sydd ar ffyrlo:
- wrth bennu cyfrif pennau’ch cyflogwr
- y rheiny a ychwanegwyd at eu cyflog i fyny hyd at eu cyflog llawn arferol
Rhaid i chi eithrio cyflogeion sydd yn cael llai na chyflog llawn a oedd ar ffyrlo ar eich dyddiad ciplun wrth gyfrifo:
- bwlch cyflog ar gyfartaledd (cymedr) rhwng y rhywiau, gan ddefnyddio tâl yr awr
- canolrif y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, gan ddefnyddio tâl yr awr
- canran dynion a merched mewn pob chwarter tâl yr awr
Dylid eithrio cyflogeion, sydd ar ffyrlo na chafodd eu cyflogau ei ychwanegu atynt hyd at gyflog llawn ac felly oedd ar absenoldeb dros dro ac yn cael eu talu ar radd lai, o’r cyfrifiadau hyn.
Mae pob gofyniad adrodd arall yn parhau heb newid.
Pryd i gynnwys cyflogeion sydd ar ffyrlo
Mae cyflogeion sydd ar ffyrlo o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) ar eich dyddiad ciplun ar gyfnod o absenoldeb dros dro.
Maent o hyd wedi’u cyflogi gennych.
Mae pob cyflogai sydd ar ffyrlo yn cyfrif fel cyflogeion perthnasol wrth bennu cyfrif pennau’ch cyflogwr.
Cyflogeion perthnasol yw’r rheiny sydd yng nghyflogaeth eich cyflogwr ar eich dyddiad ciplun.
Cynhwyswch bob cyflogai sydd ar ffyrlo yn eich cyfrifiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau wrth:
- gyfrifo os oes gennych gyfrif pennau o 250 neu fwy o gyflogeion (er enghraifft, byddai dal gofyn i gyflogwr o 261 o gyflogeion a oedd â 50 o gyflogai ar ffyrlo i adrodd am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau)
- cyfrifo canran dynion a merched yn cael tâl bonws
- cyfrifo bwlch cyflog ar gyfartaledd (cymedr) rhwng y rhywiau gan ddefnyddio tâl bonws
- cyfrifo canolrif bwlch cyflog rhwng y rhywiau gan ddefnyddio tâl bonws
Gwneir y cyfrifiadau hyn trwy ddefnyddio cyflogeion perthnasol ac felly dylid eu cyfrifo trwy ddefnyddio cyflogeion ar ffyrlo.
Cyflogeion sydd ar ffyrlo a ychwanegwyd at eu cyflog i fyny hyd at eu cyflog llawn arferol
Mae cyflogeion sydd ar ffyrlo a ychwanegwyd at eu cyflog i fyny hyd at eu cyflog llawn arferol yn gyflogeion perthnasol cyflog llawn a dylid eu cynnwys ym mhob cyfrifiad.
Cyflogeion a weithiodd oriau arferol ond gwnaethant ohirio rhan o’u cyflog
Os gwnaeth unrhyw un o’ch cyflogeion gytuno i ohirio rhan o’u henillion (er enghraifft, oherwydd effaith COVID-19 ar gyllidau’ch cyflogwr), ac ni roddwyd nhw ar ffyrlo, byddent yn cael eu hystyried yn gyflogeion perthnasol cyflog llawn gan na thalwyd nhw ar gyfradd lai neu ddim o ganlyniad bod ar absenoldeb.
Rhaid i chi ddal i gynnwys y cyflogeion hyn ymhob cyfrifiad eich bwlch cyflog rhwng y rhywiau gan yr ystyrir nhw’n gyflogeion perthnasol cyflog llawn.
Pryd i eithrio cyflogeion sydd ar ffyrlo
Nid yw cyflogeion ar ffyrlo sydd yn cael llai na chyflog llawn yn cyfrif fel cyflogeion perthnasol cyflog llawn, gan roedd y gostyngiad yn eu cyflog oherwydd eu bod ar gyfnod o absenoldeb dros dro.
Rhaid iddynt gael eu heithrio o rywfaint o’r cyfrifiadau gofynnol bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Cyflogeion perthnasol cyflog llawn yw’r rheini a dalwyd eu cyflog llawn arferol iddynt yn y cyfnod tâl a oedd yn cynnwys eich dyddiad ciplun.
Rhaid i chi eithrio cyflogeion ar ffyrlo a gafodd llai na chyflog llawn yn eich cyfrifiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau wrth:
- gyfrifo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfartaledd (cymedr) gan ddefnyddio tâl yr awr
- cyfrifo’r canolrif bwlch cyflog rhwng y rhywiau gan ddefnyddio tâl yr awr
- cyfrifo’r canran dynion a merched ymhob chwarter tâl yr awr
Dim ond cyflogeion perthnasol cyflog llawn mae’r cyfrifiadau hyn yn ei gynnwys, ac nid yw gweithwyr ar ffyrlo a gafodd yn llai na chyflog llawn yn cyfrif fel cyflogeion perthnasol cyflog llawn.
Page updates
Published:
7 January 2021
Last updated:
7 January 2021