Arweiniad
Gofynion adrodd yn y DU
Wedi ei gyhoeddi: 12 Gorffenaf 2019
Diweddarwyd diwethaf: 12 Gorffenaf 2019
Mae Egwyddorion Arweiniol y CU ar Fusnes a Hawliau Dynol yn gosod y disgwyliad y dylai cwmnïau nodi a mynd i’r afael â risgiau hawliau dynol, ac olrhain a chyfathrebu pa mor effeithiol y gwnant hynny. Adlewyrchir y safon byd eang hwn mewn amryw o feysydd polisi a chyfraith Llywodraeth y DU. Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol 2013 Llywodraeth y DU ar fusnes a hawliau dynol yn datgan y dylai cwmnïau barchu hawliau dynol ble bynnag y maent yn gweithredu. Mae gwelliannau yn ddiweddar i gyfraith ddomestig a chyfraith yr UE bellach yn gosod dyletswyddau ar gwmnïau yn gysylltiedig â datgelu sut maent yn rheoli’u heffeithiau hawliau dynol.
Gofyna Deddf Cwmnïau 2006 i gwmnïau rhestredig y DU gynnwys gwybodaeth nad yw’n ymwneud ag arian mewn adroddiad strategol i’r ‘graddau sydd eu hangen ar gyfer deall datblygiad, perfformiad neu safle busnes [y cwmni]’ [1]. Diwygiwyd y Ddeddf yn 2016 i ymgorffori darpariaethau Cyfarwyddeb Adrodd 2014 yr UE nad yw’n ymwneud ag Arian.
Mae Cyfarwyddeb Adrodd 2014 yr UE nad yw’n ymwneud ag Arian yn gymwys i gwmnïau mawr o ddiddordeb i’r cyhoedd (gan gynnwys cwmnïau rhestredig, banciau a chwmnïau yswiriant) gyda mwy na 500 o gyflogeion. Mae’n gofyn i wybodaeth gael ei datgelu sy’n ymwneud â hawliau dynol (ymysg materion eraill) ‘to the extent necessary for an understanding of the undertaking’s development, performance, position and impact of its activity’ [2]. Dylai datgeliad o’r fath gynnwys polisi’r cwmni a’i ddeilliannau, prosesau diwydrwydd dyladwy, y risgiau mwyaf, a (pan yn berthnasol a chymesur) ei berthynas busnes, cynhyrchion neu wasanaethau a fydd yn debygol o achosi effeithiau andwyol, yn ogystal â gwybodaeth ar sut reolir y risgiau hynny.
Gofynna Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 i fyrddau gymeradwyo a chyhoeddi datganiad blynyddol o ran caethwasiaeth a masnachu pobl ar eu gwefan pan fo gan y busnes drosiant o £36 miliwn neu fwy ac yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau yn y DU. Gallai’r datganiad gynnwys gwybodaeth am:
- strwythur, busnes a chadwyni cyflenwi’r sefydliad
- polisïau yn ymwneud â chaethwasiaeth a masnachu pobl
- diwydrwydd dyladwy o ran caethwasiaeth a masnachu pobl yn ei fusnes a’i gadwyni cyflenwi
- rhannau’i fusnes a chadwyni cyflenwi ble fo risg y bydd caethwasiaeth a masnachu pobl yn digwydd, a’r camau a gymerodd i asesu a rheoli’r risg hwnnw
- ei effeithiolrwydd wrth sicrhau na fo caethwasiaeth na masnachu pobl yn digwydd yn ei fusnes neu gadwyni cyflenwi, wedi’i fesur yn erbyn dangosyddion perfformiad o’r fath yr ystyria’n briodol, a
- hyfforddiant am gaethwasiaeth a masnachu pobl ar gael i’w staff.
Dywed Canllaw’r Cyngor Adrodd Ariannol ar yr Adroddiad Strategol nad yw’n orfodol y dylai adroddiad strategol gynnwys gwybodaeth ‘berthnasol’. Eglura fod ‘gwybodaeth yn berthnasol os drwy heb ei chynnwys neu’i gam-gyflwyno, y gallai hynny ddylanwadu ar y penderfyniadau economaidd a gymera cyfranddalwyr ar sail yr adroddiad blynyddol yn ei gyfanrwydd’ [3].
Dywed Cod Llywodraethu Corfforaethol y Cyngor Adrodd Ariannol y dylai’r bwrdd gadarnhau yn yr adroddiad blynyddol ei fod wedi ymgymryd ag asesiad cadarn o’r risgiau pennaf a oedd yn wynebu’r cwmni, gan gynnwys y rheini a fyddai’n bygwth ei fodel busnes, perfformiad yn y dyfodol, solfedd neu hylifedd [4].
1. Rheoliadau 2013 Deddf Cwmnïau 2006 (Adroddiad Strategol ac Adroddiad y Cyfarwyddwyr) [cafwyd mynediad iddo: 4 Medi 2017].
2. Cyfarwyddeb 2014/95/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor 22 Hydref 2014, a gwella Cyfarwyddeb 2013/34/EU o ran datgelu gwybodaeth, nad oedd yn ymwneud ag arian, a gwybodaeth amrywiaeth gan rai mentrau a grwpiau mawr. Gweler Erthygl 19a.
3. Cyngor Adrodd Ariannol (2014), Canllaw ar yr Adroddiad Strategol, Adran 5.1.
4. Cyngor Adrodd Ariannol (2014), Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU, Adran C.2.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
12 Gorffenaf 2019
Diweddarwyd diwethaf
12 Gorffenaf 2019