Yr hyn sydd angen i arweinyddion cyngor wybod
Fel Cynghorydd neu aelod etholedig awdurdod lleol rydych yn gyfrifol am gynnal a hyrwyddo hawliau a amddiffynnir gan y Ddeddf Hawliau Dynol (1998).
Mae hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â’ch cyfrifoldeb dros oruchwylio (trwy bwyllgorau craffu a ffyrdd eraill) gomisiynu a darpariaeth gwasanaethau gofal i oedolion, gan gynnwys pobl hŷn sydd yn cael cymorth yn eu cartrefi’u hunain. Yn aml mae hawliau dynol pobl hŷn sydd yn cael gofal gartref mewn perygl fel y’i dangoswyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘Close to home’ yn 2011. Rhai o’r bygythiadau i hawliau dynol a ddatgelwyd yn ‘Close to home’ oedd:
- pobl nad oedd yn cael eu bwydo, neu’n cael eu gadael heb fynediad i fwyd neu ddŵr
- pobl yn cael eu gadael mewn dillad a chynfasau budron
- pobl yn cael eu hanwybyddu gan ofalwyr gofal, a oedd yn siarad dros eu pennau wrth gyflenwi gofal personol, a
- phobl yn cael eu caethiwo i’w cartref neu ystafell wely a heb allu cyfranogi yn eu cymuned.
Fel aelod etholedig awdurdod lleol gallwch wneud gwahaniaeth cadarnhaol i amddiffyn hawliau dynol pobl hŷn trwy:
- ddefnyddio eich safle arweinyddiaeth i gyfathrebu gwerthoedd craidd urddas, parch, dewis, tegwch a chydraddoldeb, sydd yn adlewyrchu rhwymedigaethau hawliau dynol
- gofyn cwestiynau yn eich rôl gwneud penderfyniadau neu graffu pan gaiff gwasanaethau eu comisiynu i archwilio ansawdd, canlyniadau, cynaladwyedd, diogelu a phersonoli, a
- sicrhau bod rhwymedigaethau cytundebol gwasanaeth yn cynnwys y gofyniad i ddarparwyr gwasanaeth ‘weithredu fel petaent yn gorff cyhoeddus o dan y Ddeddf Hawliau Dynol’.
Beth yw’r adnoddau hyfforddi a sut dylid eu defnyddio
Adnodd hyfforddi 1 – Nodiadau a chynllun sesiwn i hyfforddwyr
Canllaw cam wrth gam yw cynllun sesiwn a nodiadau i hyfforddwyr sydd yn cyflenwi prif gyflwyniad hyfforddi hawliau dynol a gofal cartref (adnodd hyfforddi 2) i aelodau etholedig yn Lloegr.
Lawr lwytho Adnodd hyfforddi 1, sesiwn hyfforddi i aelodau etholedig yn Lloegr (Word)
Adnodd hyfforddi 2 – Prif gyflwyniad hyfforddi hawliau dynol a gofal cartref
Dyma’r cyflwyniad sydd yn cyfannu adnodd hyfforddi 1: nodiadau a chynllun sesiwn yr hyfforddwyr. Aelodau etholedig awdurdod lleol yn Lloegr yw ei gynulleidfa targed, yn enwedig y rheini sydd yn gyfrifol am gomisiynu a chrafu gwasanaethau gofal cartref.
Ceir gwybodaeth ac adnoddau ychwanegol i ychwanegu at y cyflwyniad hyfforddi hwn, yn adnodd hyfforddi 3, – y Pecyn Cymorth.
Lawr lwytho Adnodd hyfforddi 2 – Cyflwyniad i aelodau etholedig yn Lloegr (Powerpoint)
Adnodd hyfforddi 3 – Pecyn cymorth
Mae’r pecyn cymorth yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth a deunyddiau yn cynnig dau ddiben. Yn gyntaf, mae’n ychwanegu at adnodd hyfforddi 2, y prif gyflwyniad hawliau dynol a gofal cartref ac yn ail, gellir ei ddefnyddio gan hyfforddwyr ac aelodau etholedig fel teclyn cyfeirio annibynnol, i chi ei ddefnyddio’n achlysurol. Dylai hyfforddwyr sydd yn cyflwyno’r prif gyflwyniad hawliau dynol a gofal cartref (adnodd hyfforddi 2) gynefino’u hunain yn gyntaf â’r pecyn cymorth a sicrhau bod copi ar gael i bob un sydd yn bresennol yn y cyflwyniad.
Lawr lwytho adnodd hyfforddi 3 – Pecyn cymorth gwybodaeth ac hyfforddi i aelodau etholedig yn Lloegr (Word)
Adnodd hyfforddi 4 – sleidiau 'Trosolwg'
16 sleid wedi’u llunio i aelodau etholedig ac eraill i’w darllen drwyddynt wrth eu hunain i gael golwg cyffredinol pum munud ar bwyntiau hanfodol am ofal cartref a hawliau dynol.
Gall aelodau etholedig â diddordeb i’w deall yn fanylach ddefnyddio’r pecyn cymorth (adnodd hyfforddi 3) hefyd a gofyn i swyddogion drefnu sesiwn hyfforddi yn defnyddio’r prif gyflwyniad hawliau dynol a gofal cartref (adnodd hyfforddi 2).
Lawr lwytho adnodd hyfforddi 4 – Cyflwyniad hunanwasanaeth i aelodau etholedig yn Lloegr (Powerpoint)
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
28 Awst 2019
Diweddarwyd diwethaf
28 Awst 2019