Arweiniad
Cam Pedwar: Sicrhau bod y cwmni yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio’i ymagwedd at fynd i’r afael â risgiau hawliau dynol
Wedi ei gyhoeddi: 16 Awst 2019
Diweddarwyd diwethaf: 16 Awst 2019
Fel rhan o’i sylw dyledus i hawliau dynol, dylai’r cwmni siarad ag ystod eang o randdeiliaid i’w helpu i:
- nodi risgiau ac effeithiau hawliau dynol yn gywir, a gweithredu’n ffeithiol i fynd i’r afael â nhw
- deall sut mae rhanddeiliaid yn canfod y camau a gymera’r cwmni i reoli a lliniaru risgiau ac ôlrhain eu heffeithiolrwydd, ac
- integreiddio’r mewnwelediadau hyn i broses penderfynu ac arferion y cwmni.
Mae mathau gwahanol o randdeiliaid yn cynnig canfyddiadau gwahanol o weithrediadau ac effeithiau cwmni. Maent yn cynnwys:
- pobl a effeithir yn uniongyrchol gan weithgareddau cwmni, megis staff, gweithwyr yn y gadwyn gyflenwi a’u cynrychiolwyr undeb, cymunedau lleol a’u harweinyddion
- arbenigwyr sydd yn deall safbwyntiau a gofidion grwpiau lleol, megis sefydliadau anllywodraethol ac ymchwilwyr.
- arbenigwyr sydd yn deall materion hawliau dynol mewn diwydiant arbennig neu mewn rhanbarthau daearyddol uchel eu risg, megis sefydliadau anllywodraethol cenedlaethol a rhyngwladol ac undebau llafur, a buddsoddwyr sydd yn gyfrifol yn gymdeithasol, cyfreithwyr ac ymgynghorwyr.
Dylai’r bwrdd sicrhau fod strategaeth ymgysylltu’r cwmni:
- yn annog natur agored i ymgysylltu â phob grŵp rhanddeiliad, gan gynnwys beirniaid
- yn creu sianelu ar gyfer cyfathrebu â grwpiau sydd â diffyg dylanwad ond gallai fod yn fwy bregus i effeithiau
- yn meithrin perthynas adeiladol ar gyfer deialog yn hytrach nag ymgysylltu’n unig pan ei fod o fudd i’r cwmni
- yn cael ei gyflenwi gan staff sydd â’r sgiliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol
- yn ategu integreiddio adborth rhanddeiliaid i broses gwneud penderfyniadau’r cwmni, ac
- yn cynnwys rhanddeiliaid a effeithiwyd gan risgiau hawliau dynol wrth ddylunio a hybu trefniadau’r cwmni ar gyfer delio â chwynion ac achwyniadau.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
16 Awst 2019
Diweddarwyd diwethaf
16 Awst 2019