Arweiniad
A yw pobl anabl o dan anfantais sylweddol?
Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016
Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016
Y cwestiwn i sefydliad yw a yw’r:
- ffordd y mae’n gwneud pethau
- unrhyw nodwedd ffisegol yn ei adeilad neu eiddo, neu
- absenoldeb cymorth neu wasanaeth ategol
yn gosod rhai pobl anabl dan anfantais sylweddol o’u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl.
Mae unrhyw beth sy’n fwy na mân neu ddibwys yn anfantais sylweddol.
Os oes anfantais sylweddol, mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol.
Amcan yr addasiadau mae sefydliad yn eu gwneud yw cael gwared â’r anfantais sylweddol.
Ond nid yw sefydliad ond yn gorfod gwneud addasiadau sy’n rhesymol iddynt eu gwneud.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
6 Ebrill 2016
Diweddarwyd diwethaf
6 Ebrill 2016