Arweiniad

Pwy sy’n talu am addasiad?

Wedi ei gyhoeddi: 6 Ebrill 2016

Diweddarwyd diwethaf: 6 Ebrill 2016

Os yw addasiad yn rhesymol, mae’n rhaid i’r unigolyn neu sefydliad sy’n ei ddarparu dalu amdano. Fel unigolyn anabl, hyd yn oed os ydych wedi gofyn am yr addasiad, ni ddylid gofyn ichi dalu amdano.

Er enghraifft:

Mae tŷ llety wedi gosod larwm tân clywedol yn un o’r ystafelloedd gwely i ymwelwyr er mwyn darparu ar gyfer ymwelwyr a chanddynt nam ar y synhwyrau. Er mwyn adennill costau’r gwaith hwn, mae’r perchennog yn codi tâl uwch ar westeion anabl am ddefnyddio’r ystafell honno, er ei bod ym mhob ffordd arall yn union yr un peth ag ystafelloedd gwely eraill. Mae’n annhebyg fod y tâl uwch hwn yn gyfreithlon.

Hyd yn oed os yw’r unigolyn neu sefydliad yn codi tâl ar bobl eraill am wasanaeth, megis cyflenwi rhywbeth, os mai’r rheswm maen nhw’n darparu’r gwasanaeth ichi yw ei fod yn addasiad rhesymol, ni ddylent godi tâl amdano. Ond os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth yn union yr un ffordd â chwsmeriaid, cleientiaid, defnyddwyr gwasanaethau neu aelodau eraill, gallant godi’r un peth arnoch chi ag a godant ar bobl eraill.

Er enghraifft:

Mae masnachwr gwin yn rhedeg gwasanaeth siopa ar-lein ac yn codi tâl ar bob cwsmer am gyflenwi’r gwin i’w cartrefi. Mae eu cwsmeriaid yn cynnwys pobl anabl a chanddynt anhwylderau symud. Gan nad yw’r gwasanaeth ar-lein hwn yn creu anfantais sylweddol i bobl anabl a chanddynt anhwylderau symud sydd eisiau ei ddefnyddio, ni fydd cyflenwadau cartref, o dan yr amgylchiadau hyn, yn addasiad rhesymol y mae’n rhaid i’r masnachwr gwin ei wneud. Felly, gall y masnachwr gwin godi tâl ar gwsmeriaid anabl yn yr un modd ag ar gyfer cwsmeriaid eraill y gwasanaeth hwn.

Fodd bynnag, mae gan fasnachwr gwin arall siop sy’n anhygyrch i bobl anabl a chanddynt anhwylderau symud. Gallai cyflenwadau cartref o dan yr amgylchiadau hyn fod yn addasiad rhesymol i’r masnachwr gwin orfod ei wneud ar gyfer y cwsmeriaid hyn. Mewn sefyllfa felly, ni allai’r masnachwr gwin godi tâl ar gwsmeriaid felly am gyflenwadau cartref, er ei fod yn codi tâl ar gwsmeriaid eraill am gyflenwadau cartref.

 

Diweddariadau tudalennau