Camau cyfreithiol
Diogelu staff Sainsbury's rhag aflonyddu rhywiol
Wedi ei gyhoeddi: 28 Ebrill 2022
Diweddarwyd diwethaf: 28 Ebrill 2022
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
Manylion yr achos
Nodwedd warchodedig | Rhyw |
---|---|
Mathau o hawliadau cydraddoldeb | Aflonyddu |
Llys neu dribiwnlys | Arall |
Mae'r gyfraith yn berthnasol i | Lloegr, Alban, Cymru |
Ein cyfranogiad | Gorfodaeth |
Canlyniad | Arall |
Enw achos: Cytundeb adran 23 Sainsbury's
Daeth Sainsbury's i gytundeb cyfreithiol-rwym gyda ni ar ôl i aelod o'u staff ennill hawliad tribiwnlys cyflogaeth am aflonyddu rhywiol.
Pam roedden ni'n cymryd rhan
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyflogwyr yn cael eu dwyn i gyfrif am wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth fel bod pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg.
Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni yn ein Cynllun Strategol 2022 i 2025.
Beth wnaethom ni
Buom yn gweithio’n agos gyda Sainsbury’s i wneud cytundeb cyfreithiol, a elwir yn gytundeb adran 23 o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006.
Roedd y cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol i Sainsbury’s gymryd pob cam rhesymol i atal ei weithwyr rhag aflonyddu ac roedd yn cynnwys:
- paratoi canllaw gwahaniaethu ar gyfer rheolwyr llinell a chyflogeion
- cynghori staff ar sut i ddelio ag aflonyddu trwy gyfathrebu mewnol
- sefydlu hyfforddiant mwy effeithiol ar gyfer ei weithlu
- darparu adroddiadau rheolaidd i ni ar ei gynnydd.
Darparodd Sainsbury's ddiweddariadau i'r Comisiwn bob chwe mis ar statws presennol yr holl bwyntiau gweithredu a gynhwysir yn y cytundeb.
Beth ddigwyddodd
Gwnaethom fonitro cydymffurfiad Sainsbury's â'r cynllun gweithredu i sicrhau bod y camau y cytunwyd arnynt yn cael eu cwblhau.
O ganlyniad i’r cytundeb:
- mynychodd dros 151,000 o gydweithwyr hyfforddiant Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Mynychodd 16,200 o reolwyr hyfforddiant gloywi ar amrywiaeth o feysydd yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth
- mae canllaw i reolwyr a gweithwyr ar Wahaniaethu, Bwlio, Aflonyddu, Aflonyddu Rhywiol ac Erledigaeth wedi'i gynhyrchu
- mae gwelliannau wedi'u gwneud i hyfforddiant Cysylltiadau Gweithwyr penodol i reolwyr
Dywedodd llefarydd ar ran Sainsbury’s:
Diogelwch a lles ein cydweithwyr yw ein blaenoriaeth uchaf ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’r CCHD i ddatblygu ein hyfforddiant, ein polisïau a’n prosesau ymhellach. Mae gennym bellach fesurau ychwanegol sy'n tanlinellu ein dim goddefgarwch i unrhyw fath o gamdriniaeth neu aflonyddu.
Dyddiad y gwrandawiad
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
28 Ebrill 2022
Diweddarwyd diwethaf
28 Ebrill 2022