Camau cyfreithiol
Diogelu staff rhag aflonyddu rhywiol yn National Highways
Wedi ei gyhoeddi: 28 Ebrill 2022
Diweddarwyd diwethaf: 28 Ebrill 2022
I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
Manylion yr achos
Nodwedd warchodedig | Rhyw |
---|---|
Mathau o hawliadau cydraddoldeb | Aflonyddu |
Llys neu dribiwnlys | Arall |
Mae'r gyfraith yn berthnasol i | Lloegr, Alban, Cymru |
Ein cyfranogiad | Gorfodaeth |
Canlyniad | Arall |
Enw achos: Cytundeb adran 23 National Highways
Llofnododd National Highways (Highway England gynt) gytundeb cyfreithiol-rwym gyda ni ar ôl i aelod o staff dderbyn £74,000 mewn iawndal am aflonyddu rhywiol a diswyddo annheg.
Pam roedden ni'n cymryd rhan
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyflogwyr yn cael eu dwyn i gyfrif am wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth fel bod pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg.
Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni yn ein Cynllun Strategol 2022 i 2025.
Beth wnaethom ni
Fe wnaethom ysgrifennu at National Highways ym mis Mawrth 2020 i sicrhau eu bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd yn y dyfodol.
Buom yn gweithio’n agos gyda National Highways i wneud cytundeb cyfreithiol, a elwir yn gytundeb adran 23 o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006.
Mae’r camau a fabwysiadwyd gan National Highways yn cynnwys mesurau a nodir yn ein canllawiau technegol i gyflogwyr, sy’n cynnig esboniad cyfreithiol ac enghreifftiau ymarferol o sut i fynd i’r afael ag aflonyddu ac ymateb yn effeithiol iddo.
Beth ddigwyddodd
Cytunodd National Highways i weithredu nifer o fesurau allweddol i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, gan gynnwys:
- gweithredu Polisi Parch yn y Gweithle newydd
- diweddaru ei fodiwl E-ddysgu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a fydd yn orfodol i bob cyflogai
- adnewyddu deunyddiau Recriwtio ac Ymuno i adlewyrchu arfer gorau
- penodi Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- lansio Polisi Adleoli newydd
- hyfforddiant ymarferol mewn cynnal ymchwiliadau a gwrandawiadau disgyblaeth ac achwyn ar gyfer rheolwyr pobl
- adolygu eu proses uwchgyfeirio achosion
- hyfforddiant cyfreithiol i arweinwyr a rheolwyr pobl
- cwblhau asesiadau risg mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol a rhoi mesurau lliniaru ar waith i reoli risgiau a nodwyd
Gwnaethom fonitro cydymffurfiad National Highways â'r cynllun gweithredu i sicrhau bod y camau y cytunwyd arnynt yn cael eu cwblhau.
Dyddiad y gwrandawiad
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
28 Ebrill 2022
Diweddarwyd diwethaf
28 Ebrill 2022