Newyddion

Rheoleiddiwr cydraddoldeb yn cynghori'r Senedd ar y mesur cymorth i farw

Wedi ei gyhoeddi: 25 Tachwedd 2024

Gan gyflawni ei rôl fel rheoleiddiwr cydraddoldeb a Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi rhoi cyngor i Senedd y DU a Llywodraeth y DU cyn ail ddarlleniad y Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes).

Nid yw'r EHRC yn cymryd safbwynt o blaid neu yn erbyn cymorth i farw. Mae ei gyngor yn amlygu’r materion allweddol mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol a fydd yn hanfodol i’r Senedd wrth ystyried y ddeddfwriaeth a dod i benderfyniad gwybodus ar y mater hwn.

Mae cymorth i farw yn bwnc cymhleth a sensitif sy'n cynnwys emosiwn cryf ac yn aml credoau crefyddol, personol neu athronyddol dwfn. Mae’r EHRC yn nodi pwysigrwydd cynnal y ddadl hon gyda pharch ac mewn ffordd sy’n sensitif i osgoi gwahaniaethu neu densiynau cynyddol rhwng grwpiau â nodweddion gwarchodedig gwahanol.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill sy'n destun Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy'n gofyn am feithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau.

Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae hwn yn bwnc cymhleth ac emosiynol. Mae'n hanfodol bod unrhyw ddeddfwriaeth ar gymorth i farw yn cynnal hawliau pawb. Rhaid iddo ddiogelu a pharchu credoau unigolion, yn ogystal â chredoau gweithwyr meddygol proffesiynol.

“Rhaid i fesurau diogelu cynhwysfawr sicrhau bod y rhai sy’n wynebu’r penderfyniad anodd hwn yn meddu ar alluedd a bod eu penderfyniad yn rhydd o orfodaeth.

“Mae gan y Senedd gyfrifoldeb i sicrhau bod pryderon cydraddoldeb a hawliau dynol yn flaenllaw yn eu penderfyniadau, rwy’n annog ASau i ystyried ein papur briffio yn ofalus.”

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn debygol o gael effaith benodol ar bobl hŷn a’r rhai ag anableddau. Mae’r EHRC yn cynghori bod yn rhaid i fesurau diogelu fod yn eu lle i sicrhau nad yw’r ddeddfwriaeth yn gwahaniaethu yn erbyn y nodweddion gwarchodedig hyn, nac unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill.

Mae papur briffio'r EHRC yn nodi y byddai mynediad cyfartal i ofal iechyd o ansawdd uchel yn hanfodol. Gallai argaeledd ac ansawdd anwastad gofal lliniarol ar draws y DU olygu bod cymorth i farw yn gwaethygu 'loteri cod post' i'r rhai sy'n byw gyda salwch terfynol.

Bydd y Comisiwn yn parhau i fonitro’r Bil wrth iddo fynd drwy’r Senedd.

Cefndir

  • Mae'r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Ym mis Awst 2024, cyflwynodd yr EHRC ymateb i ymgynghoriad Senedd yr Alban ar y Bil Cymorth i Farw (yr Alban).

Siaradwch â'n swyddfa wasg

Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:

  • Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
  • Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
  • Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.

Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com