Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol wedi gwella hawliau dynol a mynediad at gyfiawnder i bobl yn y DU yn sylweddol. Rydym yn bryderus iawn am yr effaith y byddai’r Bil Hawliau yn ei chael ar yr amddiffyniadau hyn.
Wrth aros am ddyddiad ar gyfer ail ddarlleniad y Bil, rydym wedi rhoi tystiolaeth i’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol gan dynnu sylw at nifer o bryderon.
Mae gennym bryderon difrifol y byddai’r Bil, pe bai’n cael ei basio heb welliannau, yn:
- gwanhau amddiffyn hawliau dynol yn y DU
- lleihau mynediad at iawndal am dorri hawliau dynol
- â goblygiadau digroeso mewn perthynas â chydbwyso hawliau yng nghyd-destun rhyddid mynegiant
- â goblygiadau cyfansoddiadol, gan gynnwys i'r Undeb a datganoli
Mae’n hanfodol bod y llywodraeth yn cynnal egwyddorion sylfaenol y fframwaith hawliau dynol sy’n ein hamddiffyn ni i gyd, yn enwedig cyffredinolrwydd hawliau dynol, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â llywodraeth y DU i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain.
Darllenwch ein cyflwyniad tystiolaeth i'r Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol .
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com