Wrth ymateb i’r pryderon cynyddol dros hygyrchedd archfarchnadoedd a manweithwyr, rydym wedi cyhoeddi canllaw newydd, i helpu’r diwydiant gynorthwyo cwsmeriaid anabl yn well yn ystod y pandemig.
Anfonwyd y canllaw i Brif Weithredwyr archfarchnadoedd a chonsortia manwerthu ochr yn ochr â llythyr gan ein Prif Weithredwr, Rebecca Hilsenrath, yn nodi’u rhwymedigaethau cyfreithiol i helpu cwsmeriaid anabl.
Eglura’r llythyr sut ddylai manwerthwyr ragweld anghenion cwsmeriaid anabl a gwneud addasiadau rhesymol fel y gallant siopa ar-lein neu yn y siopau yn hyderus – yn arbennig am fwyd ac eitemau hanfodol.
Mae’r canllaw newydd yn cynnwys pedwar cam:
- Darparu gwasanaeth sydd yn diwallu anghenion pob cwsmer – rhagweld, paratoi a gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer cwsmeriaid anabl.
- Cynllunio o flaen llaw am anghenion eich cwsmeriaid anabl – ystyried a gwneud newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau, yn ogystal â darparu cymorth ac offer ychwanegol, pan fo angen.
- Cyfathrebu â’ch cwsmeriaid – hysbysu cwsmeriaid am sut y byddant yn cael eu cefnogi drwy amryw ffyrdd megis arwyddion hawdd eu darllen a chyhoeddiadau llafar.
- Hyfforddi’ch staff – sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi gan yr offer cywir i helpu cwsmeriaid anabl, yn unol â chanllaw diweddaraf y llywodraeth ar goronafeirws (COVID-19).
Meddai Rebecca Hilsenrath, Prif Weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
Mae siopa wedi newid i bawb yn ystod y pandemig. Rydym wedi darllen am storïau anghyffredin am yr ymdrechion a wnaed gan fanwerthwyr a grwpiau gwirfoddol i ddarparu help lle’r oedd ei angen. Fodd bynnag, daeth tasg a oedd eisoes â heriau a rhwystrau i bobl anabl yn amhosibl o’r bron i rai.
Rydym wedi clywed am ystod o bryderon, o giwiau hir heb fannau gorffwys, i ddiffyg ymwybyddiaeth am gyflyrau iechyd penodol sydd yn golygu nad oes rhaid i bobl wisgo masg wyneb o’r herwydd.
Mae Coronafeirws wedi datgelu rhai o anghydraddoldebau gwaethaf ein cymdeithas ac mae pobl anabl yn wynebu caledwch neilltuol.
Waeth pa benderfyniadau a chamau a wneir, mae gan bob manwerthwr ddyletswydd gyfreithiol i weithredu yn ôl y gyfraith. Mae’n hanfodol na chaiff pobl anabl eu gadael ar ôl wrth i fanwerthwyr barhau i ateb heriau’r pandemig parhaus.
Siaradwch â'n swyddfa wasg
Os ydych yn gweithio yn y cyfryngau, siaradwch â’n swyddfa wasg:
- Yn ystod oriau swyddfa (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) cysylltwch â: 0161 829 8102
- Neu anfonwch e-bost at dîm swyddfa'r wasg
- Ar gyfer y tu allan i oriau, parhewch i gysylltu â 0161 829 8102. Nid yw e-byst yn cael eu monitro y tu allan i oriau arferol.
Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau yn unig. Ar gyfer pob ymholiad arall, ffoniwch 0161 829 8100, neu e-bostiwch correspondence@equalityhumanrights.com