Arweiniad
Help a chymorth i gyflogwyr
Wedi ei gyhoeddi: 15 Mawrth 2017
Diweddarwyd diwethaf: 15 Mawrth 2017
Pecynnau cymorth i gyflogwyr
Deall eich cyfrifoldebau os yw eich cyflogai yn feichiog
Gobeithio bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol ichi wrth sicrhau bod cyfathrebu da yn digwydd yn ystod beichiogrwydd, mamolaeth ac wrth i gyflogai ddychwelyd i’r gwaith.
Mae ein pecynnau cymorth i gyflogwyr yn cynnwys cronfa o lythyron sydd wedi’u paratoi eisoes, rhestri gwirio a thempledi polisi parod i’r diben ar gyfer eich cydweithwyr AD a rheolwyr llinell. Mae cyfrifwr dyddiad gennym hefyd ichi allu cadw golwg ar ddyddiadau allweddol pan eich cynghorir i atgoffa eich cyflogai o’u hawliau o dan gyfraith cydraddoldeb.
- Pecyn cymorth i gyflogwyr ar gyn beichiogrwydd a beichiogrwydd
- Pecyn cymorth i gyflogwyr ar dadolaeth, absenoldeb tadolaeth neu riant a rennir a chyflog
- Pecyn cymorth i gyflogwyr ar y cyfnod wedi absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu
- Pecyn cymorth i gyflogwyr ar absenoldeb mabwysiadu, tadolaeth neu riant a rennir i rieni sy’n mabwysiadu a chyflog
Mae ein Cwestiynau Cyffredin i gyflogwyr yn cynnwys yr holl wybodaeth y dylai fod ei angen arnoch i wybod am eich rhwymedigaethau i’ch cyflogai a sut i reoli cyflogai trwy feichiogrwydd, mamolaeth ac wrth iddi ddychwelyd i’r gwaith, gan gynnwys golwg cyffredinol cyfreithiol ar y ddeddfwriaeth berthnasol.
Gallwch hefyd brofi eich gwybodaeth gyda’n cwis rhyng-weithredol.
Gwybodaeth bellach
Hire Me My Way: ymgyrch genedlaethol a busnes cymdeithasol Timewise wrth y llyw, a sefydlwyd i hyrwyddo gweithio hyblyg, ac wedi’i gynllunio i gynyddu’r swyddi y gellir eu gwneud drwy drefniant gweithio hyblyg yn y DU.
Working Families: elusen sydd yn gweithio gyda chyflogwyr i’w cefnogi wrth greu gweithleoedd sydd yn annog cydbwysedd gwaith-bywyd i bawb.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
15 Mawrth 2017
Diweddarwyd diwethaf
15 Mawrth 2017