Adroddiad chwythu’r chwiban ar gyfer 2023 i 2024
Wedi ei gyhoeddi: 24 Medi 2024
Diweddarwyd diwethaf: 30 Medi 2024
Cyflwyniad
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yw rheoleiddiwr cydraddoldeb statudol annibynnol Prydain a’r sefydliad hawliau dynol cenedlaethol sydd wedi gydnabod gan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cymru, Lloegr a materion sydd wedi eu dargadw yn yr Alban. Ein rôl yw gwneud Prydain yn decach trwy orfodi Deddf Cydraddoldeb 2010 a diogelu hawliau dynol.
Fe ddaethom yn gorff rhagnodedig ar gyfer chwythu’r chwiban ym mis Tachwedd 2019. Golyga hyn y gall gweithwyr sy’n pryderu bod eu cyflogwr yn torri cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol adrodd ynghylch eu pryderon wrthym ni.
Mae’r adroddiad hwn:
- yn disgrifio pa bwerau ac ysgogiadau rheoleiddiol (cyfreithiad, gorfodaeth a chydymffurfiaeth) sydd gennym a sut rydym yn eu defnyddio yn nghyd-destun ein rôl chwythu’r chwiban
- yn disgrifio sut rydym yn ymateb i’r adroddiadau chwythu’r chwiban (datgeliadau) a wneir i ni
- yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r datgeliadau chwythu’r chwiban a wnaed i ni rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024
- yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â chategori o ddatgeliadau a adroddwyd wrthym amdanynt trwy alwad am dystiolaeth a agorwyd ym mis Gorffennaf 2023
Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu gwaith a gyflawnwyd yn ystod ein Cynllun strategol 2022-25.
Crynodeb
Fe dderbynion 211 o ddatgeliadau chwythu’r chwiban rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.
Fe ddaethom i’r casgliad bod 41% o’r datgeliadau hyn naill ai y tu hwnt i’n cylch gwaith ni neu nad oeddent yn cynnwys digon o wybodaeth i wneud asesiad llawn.
Rydym yn rheoleiddiwr strategol ag adnoddau penodol. Ein dull yw defnyddio ein pwerau cyfreithiol yn unig i fynd i’r afael â materion sy’n symud un o’n chwe blaenoriaeth a ddisgrifir yn ein Cynllun Strategol 2022-25 yn eu blaen ac yn unol â’r Cynllun Busnes blynyddol perthnasol.
Fe wnaethom asesu’r 124 o ddatgeliadau oedd yn weddill er mwyn pennu a oeddent yn gydnaws â’r blaenoriaethau hynny ac yn cyrraedd y trothwyon gofynnol yn ein polisi ymgyfreithra a gorfodi. O’r rhain, nid oedd 109 (87.9%) yn gymwys ar gyfer gweithredu pellach gennym ni ar y sail hwn, roedd 11 (8.9%) yn berthnasol i waith parhaus a cawsant eu rhannu at ddibenion cuddwybodaeth yn unig a cafodd 1 (0.8%) ei gau oherwydd i’r chwythwr chwiban wneud cais am wybodaeth ychwanegol yn ystod y broses brysbennu ond ni dderbyniwyd yr wybodaeth.
Yn ogystal, fe wnaethom gyfeirio 3 (2.4%) o’r datgeliadau i’w hasesu ymhellach er mwyn adnabod yr ymateb mwyaf priodol.
O’r rhain, fe wnaethom:
- weithredu mewn perthynas â 2 ddatgeliad
- penderfynu peidio â gweithredu mewn perthynas ag 1 o’r datgeliadau
Yn ogystal â’r datgeliadau chwythu’r chwiban, fe wnaethom dderbyn 203 o ddatgeliadau trwy ein galwad am dystiolaeth er mwyn cefnogi gweithredu rheoleiddiol parhaus rhwng 18 Gorffennaf 2023 a 31 Mawrth 2024. Fe wnaethom ystyried y rhain ar wahân.
Pwy ydym ni a'r hyn a wnawn
Ni yw corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain. Rydym wedi ein dynodi â statws ‘A’ fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol gan y Cenhedloedd Unedig. Fel corff cyhoeddus statudol, anadrannol a sefydlwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, gweithredwn yn annibynnol.
Rydym yn diogelu a gorfodi’r gyfraith sy’n diogelu hawliau pobl i degwch, urddas a pharch. Defnyddiwn ein pwerau unigryw i herio gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ac amddiffyn hawliau dynol.
Am ragor o wybodaeth, darllener:
- ein Cynllun Strategol, sy’n esbonio ein nodau ac amcanion ar gyfer 2022-25
- ein Cynllun Busnes 2023 i 2024, sy’n disgrifio ein nodau ar gyfer y flwyddyn a’r prosiectau y buom yn gweithio arnynt yn 2023-24
Sut rydym ni'n defnyddio ein pwerau rheoleiddio
Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi pwerau gorfodi i ni, yn cynnwys y pŵer i:
- ymchwilio i sefydliad neu unigolyn y credwn sy’n torri cyfraith cydraddoldeb
- dod i gytundeb ffurfiol, legally binding gyda sefydliad neu unigolyn er mwyn caniatáu i ni gytuno ar gynllun gweithredu i atal gwahaniaethu yn y dyfodol
Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi pwerau ymgyfreitha i ni hefyd. Mae’r pwerau hyn yn ein galluogi i:
- ddarparu cymorth cyfreithiol i unigolion sy’n gwneud honiadau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- gymryd, neu ymwneud ag, achosion a fydd yn cryfhau cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol
Ar y cyfan, byddwn ond yn defnyddio ein pwerau ymgyfreitha a gorfodi i fynd i’r afael â materion a fydd yn symud ein blaenoriaethau strategol yn eu blaen. Disgrifir y nodau hyn yn ein Cynllun Strategol 2022-25.
Rydym yn cynnal asesiad gwydn o rinweddau pob achos a’r tebygolrwydd o wireddu’r newid y carem ei weld. Wrth ymgyfreithio litigation, byddwn ond yn defnyddio ein pŵer i ymyrryd os ydym yn fodlon y byddwn yn ychwanegu gwerth i’r achosion ac o gymorth i’r llys yn ei benderfyniadau. Gweithredwn yn gymesur bob amser, gan gydbwyso graddfa a difrifoldeb y broblem yn erbyn maint ac adnoddau’r sefydliadau o dan sylw.
Os yw mater yn berthnasol i’n meysydd blaenoriaeth, mae ffactorau eraill y byddwn yn eu hystyried wrth benderfynu defnyddio ein pwerau rheoleiddio ai peidio.
Byddwn yn ystyried:
- yr effaith y byddwn yn ei gael a pha un ai yw’n cyfiawnhau’r gwariant o ran amser ac arian sy’n angenrheidiol i’w gyflawni
- dulliau amgen o gyflawni’r amcan deisyfedig
- pa un ai ydym yn y lle gorau i weithredu ac, os hynny, pa un ai y dylem wneud hynny mewn partneriaeth ag eraill (megis rheoleiddwyr, arolygiaethau neu sefydliadau cymdeithas sifil)
- pa un ai y byddai gweithredu yn gydnaws â’n gwaith arall, er mwyn cynnydd ein heffaith
- pa un y bydd canlyniad llwyddiannus yn cynnal neu gryfhau’r dehongliad neu gymhwysiad cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol neu’n peryglu gosod cynsail niweidiol
- ai ni yw’r sefydliad mwyaf priodol i gyllido achos ac a oes ffynonellau cyllid amgen ar gael (er enghraifft, cymorth cyfreithiol)
Po fwyaf yw graddfa’r broblem, ar draws unrhyw un neu bob un o’r ystyriaethau hyn, y mwyaf tebygol y byddwn o ddefnyddio ein pwerau ac ysgogiadau.
Ystyriwn y ffactorau canlynol wrth wneud hynny:
- maint y mater (y nifer o bobl a effeithir ganddo)
- ei ddifrifoldeb (difrifoldeb y broblem ar berson neu grŵp, yn cynnwys pa un ai yw’n effeithio ar y sawl sydd mewn sefyllfaoedd agored i niwed)
- ei parhausrwydd (pa mor hir mae’r broblem wedi para)
- ei gyffredinrwydd (pa un ai yw yr un materion neu rai tebyg yn effeithio ar bobl ar draws nifer o sefydliadau neu sectorau)
Byddwn yn ystyried yr effaith y gallem ei chael ar y mater trwy adnabod:
- y newid rydym yn dymuno ei weld
- pa rai o’n pwerau y byddem yn eu defnyddio er mwyn gyrru’r newid hwnnw
- pa rai o’n pwerau fyddai fwyaf effeithiol a chymesur
- camau gweithredu y gallai eraill eu cymryd
Ystyriwn raddfa ac effaith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a gallem benderfynu gweithredu mewn un genedl ac nid y lleill.
Am ragor o wybodaeth, mae ein polisi ymgyfreitha a gorfodi 2022-25 yn disgrifio ein pwerau cyfreithiol, ar gyfer beth y defnyddiwn hwy a sut y penderfynwn pryd i’w defnyddio.
Sut rydym ni’n ymateb i ddatgeliadau chwythu’r chwiban
Mae’r wybodaeth a ddatgelir i ni yn ein helpu i benderfynu a oes angen i ni archwilio cydymffurfiaeth sefydliad â chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol. Rydym yn cofnodi ac yn asesu pob datgeliad a dderbyniwn er mwyn penderfynu a ddylem barhau â chamau gweithredu rheoleiddiol. Wrth wneud hyn, rydym hefyd yn ystyried ein:
Rhannwn ein dull â phob unigolyn sy’n gwneud datgeliad ac fe’i amlinellir hefyd yn ein polisi chwythu'r chwiban. Mewn nifer o achosion, byddwn ond yn cysylltu â chwythwr chwiban yn dilyn ein hymateb cychwynnol os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnom ar eu cyfer.
Hyd yn oed os nad ydyn ni’n gweithredu ar fater sydd wedi ei ddatgelu, rydym yn cofnodi’r wybodaeth a dderbyniwyd, yn cynnwys enw’r sefydliad (os yw wedi ei rannu â ni) a manylion ynglŷn â’r mater. Mae hyn yn ein galluogi i ddadansoddi’r holl wybodaeth a dderbyniwn er mwyn adnabod unrhyw batrymau, themâu neu faterion sy’n codi a allai hysbysu ein blaenoriaethau yn y dyfodol.
Ystadegau chwythu’r chwiban
Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, fe dderbynio 211 o ddatgeliadau chwythu’r chwiban.
Mae hyn yn gynnydd o’r 153 o ddatgeliadau chwythu’r chwiban a dderbyniom rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.
Asesiad cychwynnol
Roedd 62 o’r datgeliadau (29.4%) y tu allan i’n cylch gwaith ni. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn amherthnasol i gydraddoldeb a hawliau dynol ac roedd rhai y tu hwnt i’n awdurdodaeth daearyddol.
Nid oedd 25 o’r datgeliadau (11.8%) yn cynnwys digon o wybodaeth ar gyfer asesiad llawn ac nid oedd modd i ni gysylltu â’r chwythwr chwiban.
Roedd modd asesu’r cyfanswm o 124 datgeliad oedd yn weddill (58.8%) er mwyn pennu a oeddent yn gydnaws â’n blaenoriaethau strategol a’r meini prawf yn ein polisi ymgyfreitha a gorfodi.
Camau a gymerwyd gennym
Rydym yn rheoleiddiwr strategol ag adnoddau penodol. Ein dull yw defnyddio ein pwerau rheoleiddiol yn unig er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n symud un o’n chwe blaenoriaeth yn eu blaen, fel disgrifir yn ein Cynllun Strategol 2022-25
Fe wnaethom asesu’r 124 o ddatgeliadau nad oeddent yn cau yn dilyn yr asesiad cychwynnol er mwyn pennu a oeddent yn gydnaws â’n blaenoriaethau strategol a’r meini prawf yn ein polisi ymgyfreitha a gorfodi. Nid oedd 109 o’r rhain (87.9%) yn deilwng o weithredu pellach ar ein rhan gan nad oedd y materion yn gydnaws â’r blaenoriaethau neu’r meini prawf hynny. Fodd bynnag, bydd y cofnodion hyn o gymorth i ni wrth adnabod materion sy’n codi a blaenoriaethau i’r dyfodol. Roedd 11 o’r datgeliadau na wnaethant gau yn dilyn yr asesiad cychwynnol (8.9%) yn berthnasol i waith parhaus a cawsant eu rhannu at ddibenion cuddwybodaeth yn unig.
Fe wnaethom gyfeirio 3 (2.4%) o’r datgeliadau hyn at gydweithwyr arbenigol i’w hasesu ymhellach er mwyn adnabod yr ymateb mwyaf priodol.
Yn ogystal, cafodd 1 achos (0.8%) ei gau oherwydd gofynnwyd am wybodaeth ychwanegol gan y chwythwr chwiban yn ystod y broses brysbennu, ond ni dderbyniwyd yr wybodaeth.
Datgeliadau a gyfeiriwyd yn fewnol at staff arbenigol
Mater | Gweithredu / effaith |
---|---|
Torri honedig o adrodd ar y Bwlch Cyflog Rhywedd | Dim gweithredu pellach ar ôl y cwmpasu cychwynnol – nid oedd gofyn i’r cyflogwr adrodd. |
Torri honedig o’r ddyletswydd adrodd ar y Bwlch Cyflog Rhywedd | Adroddwyd am y cyflogwr yn dilyn ymgysylltiad â ni. |
Polisïau honedig wahaniaethol yn y gweithle | Ymgysylltiad â sefydliad – ymgysylltiad yn barhaus. |
Materion a ddatgelwyd wrthym
Ni wnaeth 124 o ddatgeliadau gau yn dilyn yr asesiad cychwynnol.
Roedd oddeutu 83.1% o’r datgeliadau yn ymwneud â thorri hawliau dynol neu wahaniaethu wrth ymdrin â staff. Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys cwynion ynglŷn â methiannau i wneud addasiadau rhesymol ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Roedd oddeutu 12.1% o’r datgeliadau yn ymwneud â thorri hawliau dynol neu wahaniaethu wrth ymdrin â defnyddwyr gwasanaethau, cwsmeriaid neu fyfyrwyr. Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys cwynion ynglŷn â gwahaniaethu yn erbyn cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau.
Mewn oddeutu 4.8% o achosion, nid oedd yn glir a oedd y datgeliad yn berthnasol i’r ymdriniaeth o staff neu ddefnyddwyr gwasanaethau, cwsmeriaid neu fyfyrwyr.
O’r 124 o ddatgeliadau na wnaethant gau yn dilyn yr asesiad cychwynnol, fe wnaethom adnabod:
- 162 o faterion cydraddoldeb neu hawliau dynol ar wahân mewn perthynas â’r ymdriniaeth o staff
- 25 o faterion cydraddoldeb neu hawliau dynol ar wahân mewn perthynas â’r ymdriniaeth o gwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaethau neu fyfyrwyr
- 10 o faterion cydraddoldeb neu hawliau dynol ar wahân lle nad oedd y grŵp roedd y mater yn berthnasol iddo yn glir neu lle roedd yn berthnasol i rywun heblaw am staff, cwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaethau neu fyfyrwyr
Mae’r nifer o faterion ar wahân a godiwyd yn uwch na’r nifer o ddatgeliadau a dderbyniwyd. Roedd hyn oherwydd bod rhai chwythwyr chwiban wedi codi mwy nag un mater yn yr un datgeliad.
Datgeliadau a godwyd ynglŷn â’r ymdriniaeth o staff
Cafodd 162 o ddatgeliadau eu codi yn ymwneud â’r ymdriniaeth o staff. Amlinellir y materion maent yn berthnasol iddynt yn y tabl canlynol.
Math o fater | Nifer | Canran |
---|---|---|
Gwahaniaethu uniongyrchol | 48 | 30 |
Gwahaniaethu anuniongyrchol | 15 | 9 |
Aflonyddu (nad yw’n rhywiol) | 31 | 19 |
Erledigaeth | 11 | 7 |
Aflonyddu rhywiol | 20 | 12 |
Methiant i wneud addasiadau rhesymol |
18 | 11 |
Gwahaniaethu yn deillio o anabledd | 9 | 6 |
Torri ar hawliau dynol | 6 | 4 |
Methiant i gydymffurfio â Rheoliadau 2017 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y bwlch cyflog rhywedd) | 2 | 1 |
Cyflog cyfartal | 1 | 1 |
Torri ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus | 1 | 1 |
Datgeliadau a godwyd ynglŷn â’r ymdriniaeth o ddefnyddwyr gwasanaethau, cwsmeriaid neu fyfyrwyr
Cafodd 25 o ddatgeliadau eu codi yn ymwneud â’r ymdriniaeth o ddefnyddwyr gwasanaethau, cwsmeriaid neu fyfyrwyr. Amlinellir y materion maent yn berthnasol iddynt yn y tabl canlynol.
Math o fater | Nifer | Canran |
---|---|---|
Gwahaniaethu uniongyrchol | 9 | 36 |
Aflonyddu (nad yw’n rhywiol) | 5 | 20 |
Erledigaeth | 1 | 4 |
Aflonyddu rhywiol | 1 | 4 |
Methiant i wneud addasiadau rhesymol | 2 | 8 |
Gwahaniaethu yn deillio o anabledd | 3 | 12 |
Torri ar hawliau dynol | 3 | 12 |
Torri ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus | 1 | 4 |
Datgeliadau a godwyd lle nad oedd yn glir a oedd y mater yn ymwneud â’r ymdriniaeth o staff neu ddefnyddwyr gwasanaethau, cwsmeriaid neu fyfyrwyr
Cafodd 10 o ddatgeliadau eu codi lle nad oedd yn glir a oedd y mater yn ymwneud â’r ymdriniaeth o staff neu ddefnyddwyr gwasanaethau, cwsmeriaid neu fyfyrwyr.
Math o fater | Rhif | Canran |
---|---|---|
Gwahaniaethu uniongyrchol | 4 | 40 |
Gwahaniaethu anuniongyrchol | 3 | 30 |
Erledigaeth | 1 | 10 |
Torri ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus | 1 | 10 |
Hawliau dynol | 1 | 10 |
Nifer o faterion a godwyd yn ôl nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Roedd rhai o’r 124 o ddatgeliadau na wnaethant gau yn dilyn asesiad cychwynnol yn codi un neu ragor o faterion yn ymwneud ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Amlinellir yr ystod o faterion yn ymwneud â gwahanol nodweddion gwarchodedig yn y tabl canlynol.
Nodweddion gwarchodedig | Nifer | Canran |
---|---|---|
Hil | 53 | 33 |
Anabledd | 42 | 26 |
Rhyw | 38 | 24 |
Crefydd neu gred | 10 | 6 |
Oed | 6 | 4 |
Ailbennu rhywedd | 6 | 4 |
Cyfeiriadaeth rywiol | 5 | 3 |
Manylion a ddarparwyd ynglŷn â gweithiwr neu gyflogwr
Mae’r tablau hyn yn amlinellu sawl datgeliad (o’r 124 o ddatgeliadau na wnaethant gau yn dilyn asesiad cychwynnol) oedd ac nad oedd yn cynnwys manylion ynglŷn â’r chwythwr chwiban neu eu cyflogwr.
Manylion gweithiwr a ddarparwyd
Manylion gweithiwr / anhysbys | Nifer | Canran |
---|---|---|
Manylion gweithiwr | 110 | 89 |
Anhysbys | 14 | 11 |
Manylion cyflogwr a ddarparwyd
Manylion cyflogwr / dim manylion | Nifer | Canran |
---|---|---|
Manylion cyflogwr | 113 | 91 |
Dim manylion | 11 | 9 |
Gwybodaeth a dderbyniwyd fel rhan o alwad am dystiolaeth i gefnogi gweithredu rheoleiddiol parhaus
Ar 18 Gorffennaf 2023, fe agorom linell gymorth e-bost gyfrinachol fel rhan o alwad am dystiolaeth i gefnogi gweithredu rheoleiddiol parhaus mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol.
Ni chafodd y llinell gymorth e-bost ei nodweddu’n gyfangwbl fel llinell gymorth chwythu’r chwiban. Fodd bynnag, mae EHRC yn berson rhagnodedig. Fe dderbyniom adroddiadau trwy’r llinell gymorth gan weithwyr a chodi pryderon ynglŷn â thorri ar gyfraith cydraddoldeb neu hawliau dynol. Oherwydd bod gan y llinell gymorth e-bost hon ffocws a phwrpas penodol, rydym yn adrodd ar ddata sy’n bethnasol iddo ar wahân isod.
Yng nghyfnod 18 Gorffennaf 2023 i 31 Mawrth 2024 (diwedd y cyfnod adrodd presennol), fe dderbyniom 203 o adroddiadau i’r llinell gymorth gan weithwyr yn adrodd ynghylch naill ai aflonyddu rhywiol, sef testun y galwad am dystiolaeth, neu weithredoedd eraill o wahaniaethu oedd yn torri ar Ddeddf Cydraddoldeb 2006.
O’r rheiny, roedd 202 yng nghwmpas yr alwad am dystiolaeth a cawsant eu defnyddio fel sylfaen dystiolaeth ar gyfer y gwaith rheoleiddiol parhaus o dan sylw.
Roedd un y tu hwnt i gwmpas yr alwad am dystiolaeth ac yn adroddiad gan weithiwr arfaethedig ynglŷn â gwahaniaethu ar sail hil. Nid oedd hyn yn teilyngu gweithredu pellach ar ein rhan ni, gan nad oedd y materion yn gydnaws â’n blaenoriaethau strategol na’n meini prawf, ond cafodd ei gyfnodi at ddibenion cuddwybodaeth.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
24 Medi 2024
Diweddarwyd diwethaf
30 Medi 2024