Arweiniad
Cyflwyniad i ganllaw bwrdd hawliau dynol
Wedi ei gyhoeddi: 14 Awst 2019
Diweddarwyd diwethaf: 14 Awst 2019
Hawliau a rhyddid sylfaenol yw hawliau dynol ar gyfer pawb yn seiliedig ar urddas, tegwch, cydraddoldeb a pharch.
Gallai cwmni effeithio ar hawliau dynol pobl trwy ei weithgareddau’i hun neu drwy’i berthynas busnes. Mae enghreifftiau’n cynnwys llafur plant neu lafur dan orfod o fewn y gadwyn cyflenwi; torri preifatrwydd unigolyn neu gyfyngu ar y rhyddid i lefaru; arferion diogelwch a gochel sâl; a llygredd amgylcheddol yn achosi niwed i iechyd pobl. Gall yr effeithiau hyn ar hawliau dynol godi mewn gweithrediadau busnes dramor neu yn y DU a gall arwain at risgiau gweithredu, ariannol, cyfreithiol neu o ran enw da yn lleol neu fyd eang, megis cwynion, ymgyfreitha, neu oedi gweithredol sydd yn gyrru costau i fyny ac yn niweidio brand y cwmni.
Pan fydd cwmnïau yn gweithredu gyda diwylliant parch dros hawliau dynol, fe ddônt yn frandiau, partneriaid, buddsoddiadau a chyflogwyr o ddewis. Amlinella’r canllaw hwn y pum cam y dylai byrddau eu cymryd i foddhau’u hunain bod eu cwmnïau yn deall effeithiau hawliau dynol posib eu gweithgareddau, cymryd camau effeithiol i liniaru neu’u hunioni, ac adrodd sut y gwnânt hyn.
Darpara’r canllaw hwn hefyd gyngor ar sut y gall byrddau fodloni Egwyddorion Arweiniol y CU ar Fusnes a Hawliau Dynol, y safon byd eang, sydd yn amlinellu rôl busnes a llywodraethau wrth barchu hawliau dynol. Nid yw’r Egwyddorion Arweiniol yn creu rhwymedigaethau cyfreithiol rhyngwladol newydd ar gwmniau, ond gallant helpu byrddau i weithredu gyda pharch i hawliau dynol a chyflawni’u cyfrifoldebau cyfreithiol a osodir mewn cyfreithiau domestig. Cânt eu hategu hefyd gan Lywodraeth y DU.
Seilir Egwyddorion Arweiniol y CU ar y fframwaith ‘Diogelu, Parchu ac Unioni’ a ddywed bod:
- gan wladwriaethau ddyletswydd i ddiogelu rhag camweddau hawliau dynol gan drydydd parti, megis busnes, trwy eu polisïau, rheoliad a dyfarniad
- mae gan gwmniau gyfrifoldeb i barchu hawliau dynol, h.y. i osgoi mynd yn groes i hawliau pobl eraill ac i fynd i’r afael ag unrhyw dresbasu y maent yn ymwneud â nhw, a
- rhaid i wladwriaethau a chwmnïau gymryd camau i sicrhau bod unioniad barnwrol ac unioniad nad yw’n farnwrol ar gael i bobl y tramgwyddwyd ar eu hawliau dynol.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
14 Awst 2019
Diweddarwyd diwethaf
14 Awst 2019