Cwestiynau Cyffredin ar y ddyletswydd gyffredinol (i Brydain)
Wedi ei gyhoeddi: 11 Ebrill 2016
Diweddarwyd diwethaf: 11 Ebrill 2016
Mae’r dudalen hon yn amlinellu ystod o gwestiynau cyffredin ar y ddyletswydd gyffredinol. Mae’r rhain yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban.
Beth yw dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus?
Crëwyd y ddyletswydd cydraddoldeb gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae’n disodli’r dyletswyddau cydraddoldeb ar hil, anabledd a rhyw. Daeth y ddyletswydd i rym ym mis Ebrill 2011 ac mae’n cwmpasu oed, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’n gymwys i Gymru, Yr Alban a Lloegr. Nodir y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn adran 149 y Ddeddf Cydraddoldeb. Yn gryno, mae rhaid i’r sawl sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol roi sylw dyledus i’r angen i:
- Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng grwpiau gwahanol
- Meithrin perthynas dda rhwng grwpiau gwahanol
Mae’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu yn cwmpasu priodas a phartneriaeth sifil.
Pa nodweddion gwarchodedig a gwmpesir gan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus?
Mae’r Ddyletswydd Cydraddoldeb yn cwmpasu: oed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu yn cwmpasu priodas a phartneriaeth sifil hefyd.
Pa gyrff sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol y sector cyhoeddus?
Gall corff fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol mewn dwy ffordd. Mae’r cyrff hynny a restrir yn Atodlen 19 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd gyffredinol. Yn ychwanegol, mae unrhyw sefydliad sy’n ymgymryd â swyddogaeth gyhoeddus yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd gyffredinol. Yn y sefyllfa hon, bydd y ddyletswydd yn gymwys i swyddogaethau cyhoeddus y sefydliad yn unig, ac nid i unrhyw swyddogaethau preifat a ymgymerir ganddi. Mae’r rhestr o gyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd gyffredinol a geir yn Atodlen 19 yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus allweddol megis awdurdodau lleol, cyrff iechyd, trafnidiaeth ac addysg, yr heddlu, y lluoedd arfog ac adrannau llywodraeth ganolog. Mae’r rhestr yn cynnwys llawer o’r un cyrff a gwmpesir yn flaenorol gan ddyletswyddau cydraddoldeb parthed hil, anabledd a rhyw.
Chaiff cyrff preifat eu cwmpasu gan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus?
Mae corff preifat (neu wirfoddol) yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd gyffredinol o ran unrhyw swyddogaethau cyhoeddus a ymgymerir ganddo. Mae’r ddyletswydd yn gymwys i’r swyddogaethau hynny’n unig, ac nid i unrhyw swyddogaethau preifat a ymgymerir gan y sefydliad. Er enghraifft, pe bai cytundeb gan gwmni diogelu â chorff cyhoeddus i gludo carcharorion, cwmpesir y swyddogaeth honno gan y ddyletswydd gyffredinol, ond ni chwmpesir unrhyw waith diogelu ar ran archfarchnad.
Pwy sy’n gyfrifol am orfodi Dyletswydd Cydraddoldeb y sector cyhoeddus?
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r ddeddf cydraddoldeb. Pan fo’n briodol, gall y Comisiwn gymryd camau i annog cydymffurfedd gan gorff cyhoeddus, cyn symud i’w orfodi. Mae gan y Comisiwn nifer o bwerau statudol arbennig y gall eu defnyddio i orfodi’r dyletswyddau penodol yn ogystal â’r ddyletswydd gyffredinol. Gall y Comisiwn a’r unigolion a effeithiwyd arnynt roi cais gerbron yr Uchel Lys am adolygiad barnwrol o ran methiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol.
Sut mae Dyletswydd Cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn effeithio ar wasanaethau un rhyw?
Mae gwasanaethau un rhyw yn gyfreithlon mewn rhai sefyllfaoedd penodol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn ôl y Ddeddf, nid yw gwahardd gwahaniaethu ar sail rhywedd yn gymwys i wasanaethau a ddarperir i un rhyw yn unig, cyn belled â’i fod yn fodd cymesur i wireddu nod dilys, a bod, o leiaf, un o’r amodau a ganlyn yn gymwys:
- Dim ond pobl o’r rhyw honno sydd angen y gwasanaeth. Er enghraifft, gellir darparu dosbarthiadau ymarfer ôl-enedigol i fenywod yn unig, gan mai dim ond menywod sydd angen y gwasanaeth
- Lle darperir y gwasanaeth ar y cyd ar gyfer y rhywiau, bydd gwasanaeth ychwanegol i un rhyw yn unig yn gyfreithlon os na fydd y ddarpariaeth ar y cyd yn ddigon effeithiol. Er enghraifft, darperir grŵp cymorth newydd i dadau gan awdurdod iechyd gan fod presenoldeb y dynion mewn grŵp cymorth newydd i rieni yn siomedig
- Oni bai i wasanaeth i ddynion a menywod gael ei ddarparu ar wahân, ni fyddai mor effeithiol, ac nid yw’n rhesymol ymarferol, oherwydd lefel angen y gwasanaethau, i ddarparu gwasanaethau ar y cyd i’r rhywiau. Er enghraifft, gellir sefydlu uned cymorth i fenywod yn unig ar gyfer menywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, hyd yn oed os nad oes uned gyffelyb i ddynion yn unig oherwydd diffyg y galw
- Darperir y gwasanaeth mewn ysbyty neu le arall ble mae angen gofal, goruchwyliaeth neu sylw arbennig ar y defnyddwyr. Er enghraifft, wardiau un rhyw mewn ysbytai a chartrefi nyrsio a chyfleusterau un rhyw mewn canolfannau iechyd meddwl
- Mae’r gwasanaeth yn debygol o gael ei ddefnyddio gan fwy nag un unigolyn ar y tro ac mae’n rhesymol i fenyw wrthwynebu presenoldeb dyn (neu i’r gwrthwyneb). Er enghraifft, ystafelloedd newid ar wahân i fenywod a dynion neu unrhyw wasanaeth sy’n ymwneud ag iechyd neu hylendid personol
- Mae’r gwasanaeth yn debygol o olygu llawer o gyffyrddiadau corfforol rhwng defnyddiwr y gwasanaeth a’r unigolyn arall a’i fod yn rhesymol i’r unigolyn hwnnw wrthwynebu defnyddiwr o’r rhyw arall. Er enghraifft, sesiynau chwaraeon sy’n cynnwys llawer o gyffyrddiadau corfforol megis jiwdo neu ddosbarthiadau hunanamddiffyn.
Mae rhaid i’r gwrthwynebiadau uchod fod yn ‘rhesymol’. Felly anodd, mae’n debyg, fydd gallu cyfiawnhau darpariaeth ar wahân i wasanaeth sy’n ymwneud â lefel isel o gyffyrddiadau corfforol. Er enghraifft, byddai’r ffaith y gallai hyfforddiant cymorth cyntaf olygu rhai cyffyrddiadau corfforol rhwng menywod a dynion yn y dosbarthiadau yn annhebygol o sicrhau darpariaeth o sesiynau un rhyw. Yn yr un modd, lle mae unigolyn yn arfer swyddogaethau cyhoeddus yn ymwneud ag unrhyw beth sy’n gysylltiedig â darpariaeth o wasanaethau un rhyw, byddai hyn yn gyfreithlon cyn belled â bod un o’r amodau uchod wedi’i fodloni, a bod darpariaeth o’r fath yn fodd cymesur i wireddu nod dilys. Er enghraifft, ymddiriedolaeth gofal sylfaenol mewn contract â sefydliad o’r sector gwirfoddol i ddarparu cwnsela ar gyfer menywod sydd wedi ymgymryd â mastectomi.
Nid yw Deddf Cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn golygu y dylid torri ar wasanaethau un rhyw, tynnu eu cyllid na pheidio ag ariannu unrhyw wasanaethau newydd. Nid yw’n golygu, chwaith, y dylid darparu gwasanaethau i fenywod a dynion ill dau ar yr un radd. Er enghraifft, gan fod y rhan fwyaf o ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn fenywod, gallai fod yn amhriodol i gyngor lleol ariannu neu ddarparu gwasanaethau lloches ar sylfaen gyfartal i ddynion a menywod, fel y’i nodwyd yn yr enghraifft uchod. Ceir rhagor o wybodaeth ar hwn ar ganllaw’r Comisiwn ar y Ddeddf Cydraddoldeb.
Sut mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn gymwys i oedran?
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn cwmpasu’r nodwedd warchodedig, oed, sy’n cyfeirio at unigolyn o oed penodol (e.e. 32 mlwydd oed) neu unigolyn o fewn grŵp oedran (e.e. 18-30 mlwydd oed). Mae hyn yn cynnwys pob oedran, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Mae eithriad: nid yw’r ddyletswydd cydraddoldeb yn gymwys i oed o ran addysg a darpariaeth gwasanaethau yn yr ysgol neu o ran cartrefi plant.
Daeth darpariaethau i wahardd gwahaniaethu ar sail oedran o ran gwasanaethau i rym ym mis Hydref 2012.
A yw’r ddeddf cydraddoldeb yn gymwys i gymdeithasau tai?
O dan y ddeddf cydraddoldeb, nid yw darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig (darparwyr cofrestredig) wedi’u rhestri ar gyfer y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol ( o dan atodlen 19 Deddf Cydraddoldeb 2010). Nid ydynt, felly, wedi’u rhestri ar gyfer y dyletswyddau penodol (o dan Atodlen 1 rheoliadau’r dyletswyddau penodol).
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, hefyd, yn gymwys i rai cyrff y sectorau gwirfoddol a phreifat pan fyddant yn ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus. Digwydd hyn pan fydd sefydliad yn arfer swyddogaeth a fyddai fel arall yn cael ei harfer gan y wladwriaeth a lle bo rhaid i unigolion ddibynnu ar yr unigolyn hwnnw i arfer y swyddogaeth honno. Mae hyn yn gymwys i ‘unrhyw unigolyn sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus’. Mae’r diffiniad yn debyg iawn i’r dyletswyddau anabledd a rhyw. Yr un yw â’r diffiniad o awdurdodau cyhoeddus yn Neddf Hawliau Dynol 1998. P’un ai a yw’r sefydliad wedi’i gwmpasu gan y diffiniad hwn ai peidio yn fater i’r llysoedd ei bennu.
Caiff y cwestiwn a yw darparwr cofrestredig wedi’i gwmpasu gan y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol ei bennu gan p’un a ydynt yn ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau cyhoeddus neu beidio. Ni all y Comisiwn sylwi ar statws sefydliadau unigol, gan mai’r llysoedd sydd i benderfynu ar hynny. Cynghorwn ddarparwyr tai, sy’n ansicr a ydynt yn ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus neu beidio, i ddiogelu eu safbwyntiau drwy sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol parthed y swyddogaethau hynny. Efallai y bydd o fudd, hefyd, i ddarparwyr cofrestredig geisio am gyngor cyfreithiol ar y mater hwn.
Cofiwch mai i swyddogaethau cyhoeddus yn unig y mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn gymwys, ac nid i bopeth y gwna darparwr cofrestredig. Mae enghreifftiau o swyddogaethau cyhoeddus yn cynnwys: dyrannu tai, trosglwyddo a chyfnewid eiddo, gosod lefelau rhent, gweithdrefnau achwyn, cyfranogiad tenantiaid, ymgynghori a rhoi gwybodaeth i denantiaid, gosod telerau tenantiaeth a therfynu tenantiaethau. Mae, hefyd, yn cynnwys sefydlu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau parthed gorchmynion rhianta ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Er mwyn bodloni’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol ar gyfer swyddogaeth gyhoeddus, mae gofyn i ddarparwyr cofrestredig nodi a thaclo anfantais barhaus a hir sefydlog o fewn y swyddogaeth honno.
Cofiwch fod croeso i unrhyw sefydliad (gan gynnwys darparwr cofrestredig) i ddefnyddio neu addasu fframwaith y ddyletswydd cydraddoldeb, waeth a ydynt wedi’u cwmpasu ganddi neu beidio. Byddai’r Comisiwn yn annog unrhyw sefydliad sy’n ceisio hyrwyddo cydraddoldeb i ddefnyddio’r dull hwn.
O dan y ddyletswydd cydraddoldeb, oes gofyn i awdurdodau cyhoeddus fonitro pob un o nodweddion gwarchodedig eu staff?
Gan fod y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn gofyn ichi ddadansoddi effaith swyddogaethau’ch sefydliad ar bob grŵp gwarchodedig, ni all awdurdodau cyhoeddus ateb y ddyletswydd oni bai fod gwybodaeth ddefnyddiol ddigonol ganddynt.
Os nad yw awdurdodau cyhoeddus eto wedi gwireddu diwylliant lle bo cyflogeion neu ddefnyddwyr gwasanaethau’n barod i gael eu holi am eu cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rywiol neu grefydd neu gred, dylent gymryd camau i feithrin diwylliant o ffydd lle gellir casglu’r wybodaeth hon. Hwyrach fod yna ffyrdd eraill o enwi’r problemau a wynebir. Gall dadansoddi ymchwil a chysylltiadau lleol neu genedlaethol â phobl y grwpiau hynny fod yn ddefnyddiol ar gyfer nodi problemau posibl.
Os caiff y wybodaeth hon ei chasglu, mae’n bwysig egluro’r rheswm am wneud hynny, y defnydd a wneir o’r wybodaeth a sut y diogelir cyfrinachedd.
Sut mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn gymwys i sefydliadau sy’n ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus?
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, hefyd, yn gymwys i sefydliadau sy’n gwneud swyddogaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys cyrff preifat neu sefydliadau gwirfoddol sy’n ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus ar ran awdurdod cyhoeddus. Diffinia’r Ddeddf Cydraddoldeb swyddogaeth gyhoeddus fel swyddogaeth o natur gyhoeddus ar gyfer dibenion Deddf Hawliau Dynol 1998. Enghraifft o hyn fyddai cwmni preifat yn rhedeg carchar ar ran y llywodraeth. Byddai’r cwmni, fodd bynnag, wedi’i gwmpasu gan y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn unig barthed ei swyddogaethau cyhoeddus ac nid am ei gwaith arall megis darparu gwasanaethau diogelu i archfarchnadoedd.
Sue mae'r ddyletwydd cydraddoldeb yn gymwys i swyddogaethau a gafodd eu contractio allan gan awdurdod cyhoeddus?
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn gymwys i waith caffael a chomisiynu gan awdurdodau Atodlen 19.
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, hefyd, yn gymwys i gyrff sy’n ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus (parthed y swyddogaethau hynny yn unig). Ar gyfer yr awdurdodau hynny, bydd y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn gymwys, hefyd, i’w gwaith caffael a chomisiynu, cyn belled ag y bo caffael a chomisiynu yn rhan o arfer y swyddogaethau cyhoeddus hynny.
Mae’r gofyniad i gydymffurfio â’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn gymwys i bob gwaith caffael beth bynnag y gwerth; gallai gwerth y contract, serch hynny, effeithio ar berthnasedd a chymesuredd ystyriaethau cydraddoldeb.
Beth mae angen i awdurdodau cyhoeddus ei wneud o ran asesu effaith ar gydraddoldeb o dan y ddylestwydd cydraddoldeb gyffredinol?
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu; hyrwyddo cyfle cyfartal; a meithrin perthynas dda - wrth wneud penderfyniadau a phennu polisïau. I’r perwyl hwn, mae angen i’r sefydliad ddeall effeithiau posibl ei weithgareddau ar wahanol bobl. Lle nad yw’r rhain yn amlwg ar unwaith, efallai bydd angen ymgymryd â rhyw fath o asesu neu ddadansoddi, er mwyn eu deall.
Amlinellodd cyfraith achos ar y dyletswyddau cydraddoldeb blaenorol rywfaint o gyfarwyddyd eglur ar beth mae rhaid i sefydliadau ei wneud er mwyn ‘roi sylw dyledus’. Bydd hwn yn berthnasol i’r ddyletswydd cydraddoldeb. Yn benodol, mae angen i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i:
- wybod am eu cyfrifoldebau o dan y ddyletswydd
- sicrhau bod tystiolaeth ddigonol ganddynt (gan gynnwys o ymgynghoriad, os yn briodol) i’w galluogi i ddeall effeithiau posibl eu penderfyniadau ar wahanol bobl a gwmpesir gan y ddyletswydd
- mynd wrthi i ystyried y materion perthnasol yn wybodus, yn y fath fodd a fydd yn dylanwadu ar y gwaith penderfynu
- gwneud hyn cyn ac wrth wneud y penderfyniadau, ac nid wedyn
- bod yn ymwybodol na all y ddyletswydd gael ei dirprwyo i drydydd parti sy’n ymgymryd â swyddogaethau ar eu rhan.
Awgryma cyfraith achos hefyd ei bod yn arfer dda i gofnodi sut y gwnaed y penderfyniadau.
Ydy dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gymwys i fudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches?
Ydy, ond mae rhai eithriadau. Er na ddiogelir mudwyr, ffoaduriaid na cheiswyr lloches gan nodweddion gwarchodedig, mae’n debygol y byddai unrhyw wahaniaethu yn cael ei ystyried yn wahaniaethu hiliol, yn arbennig o ran ‘cenedligrwydd’.
Mae eithriadau mewn perthynas â swyddogaethau o ran mudo a chenedligrwydd. Nid oes rhaid i awdurdodau cyhoeddus sy’n ymgymryd â gwaith yn ymwneud â mudo neu genedligrwydd roi sylw dyledus i’r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal o ran oed; crefydd neu gred neu hil (lle bo hil yn golygu cenedligrwydd neu wreiddiau ethnig neu genedlaethol). Fodd bynnag, mae gofyn iddynt roi sylw dyledus i feithrin perthynas dda ac i ddileu gwahaniaethu ac ymddygiadau eraill a waherddir gan y Ddeddf, wrth ymgymryd â’r swyddogaethau hynny.
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cynnwys eithriadau sy’n golygu y gellir gwneud rhai penderfyniadau parthed mudo o ran: anabledd, hil (lle bo hil yn golygu cenedligrwydd neu wreiddiau ethnig neu genedlaethol); a chrefydd neu gred, heb i hynny fod yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf. Enghreifftiau cyffredin yw: penderfyniadau ynglŷn â chaniatáu mynediad, a holi ychwanegol ar gyfer nodweddion gwarchodedig gwahanol.
Mae eithriadau, hefyd, sy’n caniatáu gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol ar sail cenedligrwydd, neu wahaniaethu anuniongyrchol yn seiliedig ar breswylfa/hyd y cyfnod preswyl, wrth gydymffurfio â chyfraith arall neu drefniant gweinidogol - h.y. lle nad oes dewis gan awdurdod cyhoeddus ond i weithredu mewn ffordd benodol. Enghreifftiau yn cynnwys: penderfyniadau am osod pobl ar gofrestri tai, a chodi tâl ar bobl sy ddim yn byw yn y Deyrnas Unedig am driniaeth gan y GIG.
Ni ystyrir triniaeth a gwmpesir gan yr eithriadau hyn yn wahaniaethu neu’n ymddygiad a waherddir gan y Ddeddf, felly nid yw awdurdodau dan ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r angen i’w dileu.
Fel rhan o’i rhwymedigaeth i roi sylw dyledus, mae angen i awdurdodau ddeall effaith eu polisïau a’u harferion ar fudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, llawer ohonynt yn wynebu anfantais sylweddol ac allgau cymdeithasol. Gan fod bylchau sylweddol o ran data sydd ar gael parthed profiadau ac anghenion ffoaduriaid a mudwyr, mae’n debygol y bydd cysylltu’n uniongyrchol â ffoaduriaid a mudwyr a’u grwpiau cynrychioliadol yn ddefnyddiol.
Sut ddylwn reoli’r sensitifrwydd yn gysylltiedig â chasglu tystiolaeth ar gyfeiriadedd rhywiol?
Gall hwn fod yn ofid gan fod rhai cyrff cyhoeddus yn teimlo eu bod yn busnesa ym mywydau preifat unigolion. Mae casglu tystiolaeth yn ddefnyddiol er mwyn deall cyfansoddiad a phrofiadau eich defnyddwyr gwasanaeth a’ch llafurlu. Gellir hefyd ddefnyddio’r dystiolaeth hon i nodi effaith eich polisïau a’ch arferion ar bobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. Er enghraifft, gall eich helpu i ddeall unrhyw anghenion penodol cleifion lesbiaid neu i sefydlu unrhyw faterion gweithle yn effeithio ar staff deurywiol. Heb gasglu tystiolaeth a’i ddadansoddi’n gadarn, gall polisi o bosib cael ei ddatblygu ar sail tybiaethau.
Gall cyrff cyhoeddus gymryd camau i gasglu’r wybodaeth hon. Mae cryn nifer o sefydliadau eisoes yn cymryd yr ymagwedd hon. Gallwch helpu i leddfu pryderon drwy egluro pam mae’r dystiolaeth yn cael ei chasglu ac i ba bwrpas. Mae hefyd yn hanfodol i gyrff cyhoeddus gynnal cyfrinachedd drwy gynllunio a gweithredu gweithdrefnau clir i ddiogelu preifatrwydd unigolion.
Mae Stonewall wedi llunio canllaw defnyddiol sy’n gosod allan pam mae monitro cydraddoldeb yn bwysig.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
11 Ebrill 2016
Diweddarwyd diwethaf
11 Ebrill 2016