Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC):
“Mae’r EHRC yn croesawu rhai o’r datblygiadau cadarnhaol ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol sydd wedi’u cynnwys yn Araith y Brenin ddoe.
“Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o fanylion am y Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) Drafft a byddwn yn ei ystyried yn ofalus.
“Rydym yn falch o weld bod y bil drafft i wahardd arferion trosi wedi’i gynnwys. Mae’r EHRC wedi bod yn galw am gyflwyno gwaharddiad a ystyriwyd yn ofalus sy’n cyflwyno amddiffyniadau hanfodol i bobl â nodweddion gwarchodedig cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd heb effeithio ar ryddid crefyddol na darparu cymorth a gofal priodol.
“Fel rheoleiddiwr cydraddoldebau Prydain a Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol, rydym yn barod i roi cyngor i’r llywodraeth a’r Senedd wrth i fanylion yr holl ddeddfwriaeth arfaethedig gael eu datblygu.”