Heddiw mae corff gwarchod cydraddoldeb Prydain, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, wedi diweddaru ei ganllawiau ar gyfer y rhai sy'n gosod neu'n cyhoeddi hysbysebion, i'w helpu i sicrhau bod hysbysebion o'r fath yn gyfreithlon ac nad ydynt yn gwahaniaethu.
Mae hysbyseb gwahaniaethol yn un sy'n cyfyngu swyddi, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau i bobl â nodwedd warchodedig a gwmpesir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Maent yn anghyfreithlon ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn lle mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn caniatáu cyfyngiad o'r fath yn benodol.
Mae'r canllawiau ar eu newydd wedd yn rhoi mwy o eglurder ynghylch 'gofynion galwedigaethol', o dan Atodlen 9 Deddf Cydraddoldeb 2010, lle gall cyflogwr fynnu bod gan ymgeisydd am swydd neu weithiwr nodwedd warchodedig arbennig os yw'n angenrheidiol ar gyfer y rôl.
Mae'r EHRC yn ymwybodol o dystiolaeth bod rhai cyflogwyr wedi cymhwyso eithriadau gofynion galwedigaethol yn anghywir. Mae'n ymddangos bod diffyg eglurder penodol ynghylch y gyfraith lle mai 'rhyw' yw'r nodwedd warchodedig.
Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn ei gwneud yn glir, lle mae gofyniad galwedigaethol yn ymwneud â 'rhyw', mae'r gyfraith yn dweud bod hyn yn golygu rhyw cyfreithlon person fel y'i cofnodir ar eu tystysgrif geni neu Dystysgrif Cydnabod Rhywedd.
Bydd y canllawiau hyn yn helpu cyflogwyr ac unigolion i ddeall lle mae hysbysebion yn gyfreithlon a lle gallent fod yn anghyfreithlon ac yn wahaniaethol.
Dywedodd y Farwnes Kishwer Falkner, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Fel rheolydd cydraddoldeb Prydain, mae gennym ni ddyletswydd i hyrwyddo a chynnal deddfau cydraddoldeb Prydain.
“Rydym yn cydnabod yr angen am eglurder ynghylch y defnydd cyfreithlon o’r eithriadau gofynion galwedigaethol a nodir yn Atodlen 9 y Ddeddf Cydraddoldeb. Felly rydym wedi cymryd camau i’w ddarparu.
“Rhaid i’r rhai sy’n cyhoeddi hysbysebion swyddi fod yn gyfarwydd â’u rhwymedigaethau o dan gyfraith cydraddoldeb. Gallant deimlo'n hyderus y bydd ein canllawiau wedi'u diweddaru yn eu helpu i gydymffurfio â'r gyfraith.
Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol hefyd y bydd y Comisiwn yn cymryd camau i gynnal y Ddeddf Cydraddoldeb. Pan fyddwn yn cael gwybod am gam-gymhwyso posibl darpariaethau Atodlen 9, byddwn yn parhau i asesu’r rhain a chymryd camau i’w datrys fesul achos .
Nodiadau:
- Daeth adolygiad yr EHRC o'r canllawiau blaenorol ar hysbysebion gwahaniaethol i'r casgliad bod angen diweddaru rhai meysydd o'r ddogfen sy'n ymwneud ag eithriadau 'gofyniad galwedigaethol' i fod yn gyfreithiol gywir.
- Mae'r pwyntiau a gwmpesir yn y canllawiau wedi'u diweddaru yn cynnwys enghraifft o ofyniad galwedigaethol cyfreithlon o dan Atodlen 9 Deddf Cydraddoldeb 2010 (eiriolwr iechyd cymunedol Sikhaidd); enghraifft o gyfiawnhad gwrthrychol lle mae gofyniad galwedigaethol yn berthnasol (gweinydd ystafell newid o'r un rhyw â'r rhai sy'n defnyddio'r cyfleusterau); ac eglurhad bod gofyniad galwedigaethol ‘seiliedig ar ryw’ i fod yn fenyw o dan Atodlen 9 yn cyfeirio at ryw cyfreithlon person fel y’i cofnodwyd ar ei dystysgrif geni neu ei Dystysgrif Cydnabod Rhywedd ac na all gynnwys menywod trawsryweddol nad ydynt wedi cael tystysgrif cydnabod rhywedd, gan nad oes ganddynt statws cyfreithiol fel menywod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
- Mae'r canllawiau'n rhoi cyngor ar beth yw hysbyseb gwahaniaethol, pryd mae'n gyfreithlon cyfyngu swydd neu wasanaeth i grwpiau penodol, sut y gellir gwneud cwyn ac ymagwedd y EHRC at hysbysebion gwahaniaethol.