Arweiniad
Canllaw busnes a hawliau dynol i gyfarwyddwyr bwrdd
Wedi ei gyhoeddi: 6 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd diwethaf: 6 Rhagfyr 2016
Mae cyfarwyddwyr bwrdd yn eistedd ar frig y byd busnes. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau pwysig sydd yn effeithio ar filoedd os nad filiynau o bobl: eu cyflogeion, eu cyfranddalwyr, eu cwsmeriaid a’r cymunedau lle maen nhw’n gweithredu.
Mae’r Comisiwn wedi llunio canllaw byr i helpu cyfarwyddwyr bwrdd ddeall yr hyn sydd angen iddyn nhw ‘ddeall’ a ‘dangos’ bod eu cwmni yn parchu hawliau dynol ar waith. Mae’n amlinellu pum cam i fyrddau ddilyn i sicrhau bod eu cwmni:
- yn mewnosod y cyfrifoldeb i barchu hawliau dynol yn ei ddiwylliant, gwybodaeth ac arferion
- yn nodi a deall ei risgiau mwyaf amlwg neu ddifrifol i hawliau dynol
- yn mynd i’r afael yn systemig â’i risgiau mwyaf amlwg neu ddifrifol i hawliau dynol ac yn darparu atebion pan fo’u hangen
- yn cynnwys rhanddeiliaid wrth lywio ei ddull i fynd i’r afael â risgiau hawliau dynol, ac
- yn adrodd ar ei risgiau hawliau dynol mwyaf amlwg neu ddifridol ac yn cyflawni ei ofynion adrodd rheoleiddiol.
Gellir lawr lwytho’r canllaw bwrdd ynghyd â gwybodaeth bellach ar nodi ac atal risgiau hawliau dynol i fusnesau.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
6 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd diwethaf
6 Rhagfyr 2016