Arweiniad

Cam Un: Sicrhau bod y cwmni yn gosod y cyfrifoldeb i barchu hawliau dynol yn ei ddiwylliant, gwybodaeth ac arferion

Wedi ei gyhoeddi: 16 Awst 2019

Diweddarwyd diwethaf: 16 Awst 2019

Sicrhau bod y cwmni yn gosod y cyfrifoldeb i barchu hawliau dynol yn ei ddiwylliant, gwybodaeth ac arferion

I gael sylfaen i ddiwylliant sydd yn arddel hawliau dynol yn rhan gyson o sut mae cwmni’n gwneud ei fusnes, yn gweithio gyda phartneriaid, yn rheoli risgiau ac yn adrodd ar weithgareddau, bydd rhaid iddo ymrwymo’n gyhoeddus i barchu hawliau dynol. Dylai’r bwrdd ac uwch reolwyr ddarparu naratif a negeseuon cyson ynglŷn ag arwyddocâd parch dros hawliau dynol i lwyddiant y cwmni.

Fel rhan o gyfrifoldeb cyffredinol y bwrdd ar gyfer pennu natur a maint risgiau pennaf y cwmni, dylai’r bwrdd fodloni’i hunan ei fod yn deall y risgiau hawliau dynol tebygol yn ei sector, risgiau hawliau dynol amlycaf y cwmni, a sut mae’n eu rheoli neu’u lliniaru.

Dylai’r bwrdd sicrhau fod gan o leiaf un o’i aelodau arbenigedd busnes a hawliau dynol a/neu benodi hyrwyddwr hawliau dynol. Dylai’r bwrdd fod yn gwybod am yr ystod o hawliau dynol sydd wedi’u cynnwys yn y Datganiad Cyffredinol Hawliau Dynol a chonfensiynau craidd y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, yn ogystal â’r safon ymddygiad ar gyfer busnes sydd wedi’i amlinellu yn Egwyddorion Arweiniol y CU.

Dylai’r tîm gweithredu gadarnhau wrth y bwrdd y bod ganddo arbenigedd ar hawliau dynol, sydd yn wahanol i agweddau eraill cynaladwyedd.

I ddeall sut mae’r cwmni wedi gosod hawliau dynol ar draws pob arfer busnes, dylai’r bwrdd ofyn am wybodaeth a thystiolaeth ar sut mae wedi:

  • dyrannu cyfrifoldeb arweiniol ar gyfer hawliau dynol ar lefelau gweithredu ac uwch reolwyr, ac wedi arfogi’r staff ar gyfer y rolau hynny
  • sicrhau cyfrifoldeb a rennir ar draws swyddogaethau cwmni gwahanol y gallai’u camau a’u penderfyniadau godi risgiau i hawliau dynol
  • wedi rhoi gweithdrefnau llywodraethu ar waith i sicrhau bod y bwrdd yn cael gwybod am y materion hawliau dynol systemig a mwyaf llym
  • annog staff i siarad yn agored am faterion hawliau dynol, gan gynnwys tensiynau rhwng hawliau dynol a blaenoriaethau masnachol
  • wedi darparu anogaethau perfformiad sydd yn cymell staff i reoli risgiau hawliau dynol
  • wedi dysgu o’i brofiad yn nodi a lliniaru risgiau hawliau dynol i ategu gwella parhaus, ac
  • wedi nodi dangosyddion i asesu effeithiolrwydd ei brosesau rheoli risgiau hawliau dynol.

 

Diweddariadau tudalennau