Arweiniad

Cam Dau: Sicrhau bod y cwmni’n nodi a deall ei risgiau amlycaf, a mwyaf llym, i hawliau dynol

Wedi ei gyhoeddi: 16 Awst 2019

Diweddarwyd diwethaf: 16 Awst 2019

Mae rhoi sylw dyledus i hawliau dynol yn golygu canolbwyntio ar risgiau i bobl, nid risgiau i’r busnes.

Proses barhaus yw y gall cwmni drwyddi ddeall pryd, ble a sut gallai effeithio ar hawliau dynol, blaenoriaethu’r risgiau hyn ar gyfer gweithredu, cymryd camau i fynd i’r afael â nhw, ôlrhain effeithiolrwydd ei ymdrechion, a chyfathrebu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Mae Egwyddorion Arweiniol y CU yn ei wneud yn glir y dylai cwmniau flaenoriaethu risgiau hawliau dynol yn seiliedig ar eu llymder, h.y. pa mor ddifrifol, eang ac anodd eu hunioni maent. Y rhain yw materion hawliau dynol amlycaf y cwmni.

Nid yn unig bod y broses o nodi’r materion hawliau dynol amlycaf  yn helpu cwmni i ddeall ble mae’r risgiau mwyaf i bobl ar draws ei fusnes, mae hefyd yn helpu cwmni i ddatgelu ble mae’r risgiau sy’n gysylltiedig â hawliau i’r busnes yn debygol o fod.

Gall rhai risgiau i hawliau dynol fod yn hanfodol i beth mae cwmni yn ei wneud, ble mae’n gweithio, sut y cafodd ei strwythuro a’r modd y gwna penderfyniadau. Dylai’r bwrdd yn gyfnodol adolygu’r risgiau lefel uwch hyn. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

Risgiau model busnes:

er enghraifft, gallai cwmniau sydd yn dibynnu ar ddwyn cynhyrchion rhad i’r farchnad gydag ymylon elw cul i gyflenwyr, ar fod y cyflymaf i’r farchnad, neu’n uchel ar gynhyrchiad tymhorol, gymell cyflenwyr i dalu llai na’r cyflog byw i’w gweithwyr, gofyn am oramser gormodol, a thorri corneli ar ddiogelwch.

Risgiau perthynas busnes:

er enghraifft, gallai cwmni mewn menter ar y cyd â llywodraeth â hanes hawliau dynol sâl ganfod y cafodd ei drwydded i hawliau mwynol neu dir ei gwobrwyo heb y sylw dyledus nag ymgynghoriadau gyda chymunedau lleol, neu fod yr heddlu neu’r fyddin yn atal gwrthwynebiad cymunedol.

Risgiau cyd-destun gweithredu:

er enghraifft, bydd cwmni yn gweithio mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o wrthdaro, llygredd neu reol y gyfraith wan yn debygol o wynebu risg gynyddol o ymwneud â chamdriniaethau hawliau dynol, sydd yn codi’n haws ac yn llai tebygol o gael eu hunioni yn y cyd-destunau hyn.

Risgiau gweithlu:

er enghraifft, gallai cwmni â chyfran sylweddol o lafur mudwyr isel eu sgiliau yn ei weithlu neu gadwyn cyflenwi, neu sydd yn annog defnyddio gweithwyr ar gontract o gyflogwr trydydd parti ganfod bod diffyg diogelwch cyfreithiol llawn, hawliau rhyddid i gymdeithas a mynediad i unioniad gan y gweithwyr hyn, a’u bod hefyd yn wynebu amodau gweithio ecsbloetiol.

Risgiau polisi cyhoeddus:

er enghraifft, gallai cwmni sydd yn lobïo yn erbyn cyfreithiau a rheoliadau sydd yn amddiffyn hawliau dynol danseilio dyletswydd y wladwriaeth i wneud hynny, gan ei wneud yn anoddach i gwmniau yn gyffredinol weithredu yn y wlad honno â pharch i hawliau dynol.

 

Diweddariadau tudalennau