Arweiniad
Astudiaethau achos cydraddoldeb
Wedi ei gyhoeddi: 16 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mai 2016
Enghreifftiau o wahaniaethu anghyfreithlon
1.1 Anabledd
Gwahaniaethu uniongyrchol
Enghraifft 1
Mae ysgol yn canfod bod disgybl yn awtistig yn ôl diagnosis ac yn ei wahardd ar unwaith rhag cymryd rhan yn nrama’r ysgol gan eu bod yn drwgdybio na fydd ‘yn gallu ymdopi’. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon ar sail anabledd.
Enghraifft 2
Mae ysgol yn cynllunio trip i amgueddfa werin. Mae disgybl sydd â syndrom Down yn cael ei gwahardd rhag mynd ar y trip gan fod yr ysgol o’r farn na fydd hi’n gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau a ddarperir gan yr amdduegfa ar gyfer grwpiau ysgol. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon ar sail anabledd.
Enghraifft 3
Mae tiwtor derbyn i ysgol annibynnol yn cyfweld ymgeisydd sydd â pharlys yr ymennydd sy’n gwneud iddi siarad yn aneglur. Mae’r tiwtor yn rhagdybio bod gan yr ymgeisydd anawsterau dysgu hefyd ac mae’n gwrthod ei derbyn gan ei fod o’r farn na fyddai hi’n gallu ymdopi ag amgylchedd academaidd iawn yr ysgol. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu anghyfreithlon yn codi o anabledd.
Gwahaniaethu anuniongyrchol
Enghraifft 1
Dywedir wrth ddisgybl sydd â pharlys yr ymennydd ac sydd yn defnyddio cadair olwyn na fydd yn gallu mynd ar drip ysgol i theatr leol i weld perfformiad o ddrama mae’n astudio yn Saesneg ar hyn o bryd, gan nad yw’r theatr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’r disgybl a’i rhieni yn gwybod bod y ddrama yn cael ei pherfformio hefyd mewn theatr mewn dinas gyfagos sydd yn hygyrch ond nid yw’r ysgol yn archwilio’r opsiwn hwn. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.
Enghreifftiau o fethu â gwneud addasiadau rhesymol.
Mae disgybl byddar, sy’n darllen gwefusau, mewn sefyllfa o anfantais sylweddol wrth i athrawon siarad gyda’u cefnau tuag ato wrth iddyn nhw ysgrifennu ar y bwrdd.
Dywedir wrth ddisgybl â dyslecsia na all gael nodiadau gwersi ei hathrawes ac y dylai gymryd nodiadau yn ystod y gwersi ‘fel pawb arall’.
Darllen mwy o wybodaeth ar wahaniaethu ar sail anabledd.
1.2 Rhyw
Gwahaniaethu uniongyrchol
Mae ysgol i fechgyn a merched yn ceisio cynnal cydbwysedd rhywiol yn yr ysgol drwy dderbyn un rhyw ar draul y llall pan fo lleoedd yn gyfyng. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon ar sail rhyw.
Gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw
Mae ysgol yn darparu lleoliad gwaith ym maes gwaith saer gyda chwmni lleol. Mae’r ysgol yn datgan bod rhaid i unrhyw ymgeisydd ar gyfer y cwrs hwn fod wedi astudio gwaith coed yn yr ysgol fel opsiwn yn ei gwrs dylunio a thechnoleg. Mae dan-gynrychiolaeth arwyddocaol o ferched ar y cwrs dylunio a thechnoleg a’r opsiwn gwaith coed o’i fewn, felly gellir ystyried hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw a bydd yn rhoi merched mewn sefyllfa anfanteisiol arbennig. Yn yr un ysgol, os yw disgyblion am ymgymryd â lleoliad gwaith ym maes ffasiwn a chynllunio ffabrig, ac nid oes rhaid iddyn nhw fod wedi ymgymryd â’r opsiwn tecstilau ym maes dylunio a thechnoleg, gall hyn fod yn gymharydd dilys i ddangos gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw.
Darllen mwy o wybodaeth ar wahaniaethu rhywiol.
1.3 Hil
Enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol
Ar ôl achos o ymladd ym muarth chwarae’r ysgol rhwng disgyblion Asiaidd a rhai Gwyn, mae ysgol annibynnol yn cyfyngu’r amser y gall y disgyblion Asiaidd a gymerodd rhan yn yr ymladd dreulio yn y buarth chwarae yn ystod yr awr ginio ond nid yw’n gosod yr un cyfyngiad ar y disgyblion Gwyn. Os yw ethnigrwydd yn un o achosion y driniaeth anfanteisiol a gaiff y grŵp hwn o ddisgyblion, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu hiliol uniongyrchol.
Enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol
Mae ysgol yn gwahardd y steil gwallt 'cornrow' fel rhan o’i pholisïau ar olwg disgyblion. Mae’n fwy tebygol y caiff y steil gwallt hwn ei fabwysiadu gan grwpiau hiliol penodol. Felly, bydd ei wahardd yn gyffredinol yn debygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail hil gan nad yw’n debygol y gellir ei gyfiawnhau’n wrthrychol a'i fod yn gymesur. Mae’r meini prawf, er yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol, yn agos iawn i fod yn gwahaniaethu’n uniongyrchol yn enwedig os yw’n gymwys i grŵp bach o unigolion.
Aflonyddu
Mae disgybl o gefndir Teithwyr Gwyddelig yn digwydd clywed athro yn siarad yn hiliol ac yn sarhaus ar lawer i achlysur am sipsiwn a theithwyr gan ddatgan y dylid cau eu safle a’u bod yn ‘drwbl’. Mae hyn yn debygol o fod yn aflonyddu yng nghyswllt y nodwedd warchodedig hil.
Darllen fwy o wybodaeth am wahaniaethu hiliol.
1.4 Crefydd a chred
Gwahaniaethu uniongyrchol
Enghraifft 1
Mae disgybl Mwslimaidd yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd o ran amserlen yr ysgol i gyd-fynd â’i ymrwymiadau crefyddol yn gysylltiedig â’r cyfnod Ramadan. Mae’n gofyn a all esgusodi ei hunan rhag mynd i’r dosbarthiadau ymarfer corff yn y prynhawn yn ystod y cyfnod Ramadan pan fydd yn ymprydio. Caiff ei wrthod a gofynnir iddo fynychu’r dosbarthiadau ymarfer corff yn y prynhawn. Mae disgybl arall yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd o ran yr amserlen i gyd-fynd a’i ddosbarthiadau bedydd esgob yn ei eglwys. Caiff ei ganiatáu i adael y dosbarth hanner awr yn gynharach ar ddydd Gwener. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon yn erbyn y disgybl cyntaf oherwydd ei grefydd neu gred.
Enghraifft 2
Mae ysgol Gatholig yn gwahardd disgybl o’r ysgol oherwydd iddo ddiarddel ei ffydd Gatholig a datgan ei fod yn anffyddiwr. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon oherwydd crefydd neu gred.
Gwahaniaethu anuniongyrchol
Enghraifft 1
Mae ysgol yn gofyn i fechgyn wisgo cap fel rhan o’i gwisg ysgol. Er bod y gofyniad hwn yn gymwys yn gyfartal i bob disgybl, mae’n effeithio ar fechgyn Sikh sy’n gwisgo twrban oherwydd eu crefydd. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu anuniongyrchol oherwydd crefydd a chred gan ei fod yn annhebygol y gallai’r ysgol gyfiawnhau’r weithred hon.
Enghraifft 2
Mae ysgol yn sefydlu polisi na ddylid gwisgo gemwaith. Gofynnir i Sikh ifanc i beidio â gwisgo ei breichled Kara yn unol â’r polisi hwn, er i’r fenyw ifanc egluro bod gwisgo’r freichled yn ofynnol iddi yn ôl ei chrefydd. Gallai hyn fod yn wahaniaethu anghyfreithlon anuniongyrchol ar sail crefydd a chred.
Darllen fwy o wybodaeth ar wahaniaethu yn erbyn crefydd a chred.
1.5 Cyfeiriadedd rhywiol
Gwahaniaethu uniongyrchol
Enghraifft 1
Yn ystod gwers ABGI (addysg bersonol, gymdeithasol, economaidd ac iechyd), mae athro yn disgrifio cyfunrywioldeb fel rhywbeth ‘annaturiol’ ac ‘anfoesol’ ac yn dweud y bydd yn cynnwys perthnasau heterorywiol yn unig yn y wers. Mae disgybl deurywiol yn y wers wedi’i gynhyrfu a’i sarhau gan y sylwadau hyn. Gan nad yw aflonyddu yn gymwys i’r nodwedd warchodedig cyfeiriadedd rhywiol mewn ysgolion, mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon oherwydd cyfeiriadedd rhywiol.
Enghraifft 2
Mae ysgol annibynnol yn cynnig lle i ddisgybl hoyw ar yr amod ei fod yn cuddio’i gyfeiriadedd rhywiol ac yn cymryd arno ei fod yn strêt (heterorywiol). Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon oherwydd cyfeiriadedd rhywiol.
Enghraifft 3
Mae disgybl dosbarth chwech yn cael ei fwlio am fod yn ddeurywiol ac er iddo sôn wrth athro am y bwlio, ni chymerir unrhyw gamau gan fod yr athro yn credu mai dim ond tipyn o gellwair ydyw a’i fod yn haeddu ‘tipyn o gellwair’ os yw am ddweud ei fod yn ddeurywiol. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon oherwydd cyfeiriadedd rhywiol, yn hytrach nag aflonyddu.
Darllen fwy o wybodaeth ar wahaniaethu yn erbyn cyfeiriadedd rhywiol.
1.6 Trawsrywiol
Gwahaniaethu uniongyrchol
Dywedir wrth ddisgybl sy’n ymgymryd â phroses ailbennu rhywedd na fydd yn gallu mynychu gwersyll yr ysgol oherwydd nad oes cyfleusterau toiled addas ganddyn nhw. Mae hyn yn debygol o fod yn driniaeth lai ffafriol oherwydd ailbennu rhywedd, a byddai’n gwahaniaethu’n uniongyrchol.
Darllen fwy o wybodaeth ar wahaniaethu trawsrywiol.
2. Hanesion llwyddiannus o ran cydraddoldeb
Achos 1 - beichiogrwydd
Mae rheoliad gan y Tribiwnlys Cyflogaeth yn 2010 yn rhoi mwy o ddiogelwch i fenywod beichiog y lluoedd arfog rhag dioddef gwahaniaethu. Ariannodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr achos a gafodd ei ddwyn gan swyddog benywaidd yn erbyn yr Awyrlu Brenhinol lle honnodd iddi golli ei swydd ac i’w gobeithion gyrfa ddioddef oherwydd ei bod yn feichiog.
Cynrychiolodd cwmni cyfraith y swyddog, a oedd ar ei chyfnod swydd yn Ynysoedd Falkland, pan ddywedodd wrth eu huwch-reolwyr ei bod ar ddeuddegfed wythnos ei beichiogrwydd. Gwrthodwyd ei chais i aros yn ei swydd, a oedd yn seiliedig ar waith desg, er bod ei gŵr hefyd yn swyddog yn yr Awyrlu Brenhinol ar yr Ynys a chafodd orchymyn i ddychwelyd ar unwaith i’r Deyrnas Unedig.
Gan ei bod am fod gyda’i gŵr yn ystod ei beichiogrwydd bu rhaid iddi gymryd gwyliau i ddychwelyd i Ynysoedd Falkland. Yn ei sgil, collodd adolygiad perfformiad a lesteiriodd ei gobeithion gyrfa.
Dyfarnodd y Tribiwnlys fod y swyddog wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd ei beichiogrwydd a chafodd iawndal o fwy na £16,000. Argymhellodd y tribiwnlys hefyd y dylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn:
gynnal asesiad risg unigol i bob menyw feichiog ac ystyried addasu ei rôl i’w galluogi i aros yn ei swydd,
sefydlu proses fonitro o ran menywod beichiog yn colli eu swyddi, a
gwerthuso perfformiad pob menyw feichiog sy’n dechrau ar ei chyfnod mamolaeth.
Achos 2 - rhyw
Yn 2010, enillodd fwy na 4,000 o weithwragedd cyngor yr hawl i gael yr un cyflog â’r dynion mewn achos a allai arwain at daliadau o werth tua £200m.
Dyfarnodd tribiwnlys cyflogaeth o blaid menywod a oedd yn gweithio i gyngor dinas Birmingham mewn 49 o swyddi gwahanol, gan gynnwys menywod lolipop a glanhawyr, a gwynodd eu bod yn colli’r cyfle i ennill bonysau – gwerth i fyny at 160% o’u cyflog sylfaenol – a delir i ddynion.
Roedd yr holl fenywod wedi’u penodi i rolau sydd yn draddodiadol i fenywod yn bennaf, megis glanhau, gofal ac arlwyo, yn ogystal â swyddi gweinyddol. Yn ystod y gwrandawiad saith wythnos, clywodd y tribiwnlys sut y gallai dyn a oedd yn gwneud yr un swydd, a oedd wedi’i raddio o ran cyflog , â menyw ennill bedair gwaith yn fwy na hi.
O dan gynllun bonws, roedd dynion, a oedd yn casglu sbwriel, weithiau yn cael i fyny at 160% o’u cyflog sylfaenol. Mewn un flynedd talwyd £51,000 i un dyn a oedd yn casglu sbwriel, er i fenyw ar yr un raddfa gyflog ennill lai na £12,000.
Disgrifiodd undebau fuddugoliaeth y menywod fel achos aruthrol a allai annog menywod yn gweithio yn y sector cyhoeddus i ddwyn hawliadau tebyg.
Achos 3 – crefydd a chred
Yn 2008 dyfarnwyd iawndal o £4,000 i fenyw Fwslimaidd ar ôl i berchennog siop trin gwallt wrthod ei chyflogi oherwydd ei bod yn gwisgo penwisg.
Roedd Bushra Noah, 19, a gafodd ei gwrthod ar gyfer 25 o swyddi trin gwallt, wedi cyhuddo Sarah Desrosiers o wahaniaethu, ar ôl iddi fethu cynnig swydd iddi ym mis Mai'r llynedd. Dywedodd Ms Desrosiers, 32 oed, fod arni angen staff i ddangos eu steiliau gwallt i gwsmeriaid yn salon Wedge yn King’s Cross, Gogledd Llundain.
Ceisiodd Mrs Noah, o Acton, Gorllewin Llundain, am swydd fel is-gynorthwy-ydd. Pan gyrhaeddodd y salon honnodd fod y perchennog yn syn ei bod yn gwisgo penwisg. Dywedodd Ms Desrosiers wrth y llys ei bod wedi synnu nad oedd Mrs Noah wedi sôn am y benwisg. Dywedodd fod arni eisiau trinwyr gwallt i adlewyrchu delwedd ‘ffynci, dinesig’ ei salon.
Dyfarnodd y panel fod Mrs Noah wedi’i brifo’n ddrwg gan y cyfweliad chwarter awr a dyfarnodd £4,000 o iawndal iddi am ‘niwed i deimladau’.
Achos 4 – cyfeiriadedd rhywiol
Yn 2010 enillodd cwpl hoyw eu hawliad gwahaniaethu yn erbyn perchnogion gwesty mewn dyfarniad carreg filltir yn Llys Sirol Bryste mewn achos a gafodd ei ariannu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae dyfarniad y barnwr yn un o’r achosion cyfreithiol cyntaf i’w gymryd o dan Reoliadau (Cyfeiriadedd Rhywiol) Deddf Cydraddoldeb 2007 yn golygu bydd gan bobl mewn partneriaethau sifil fwy o ddiogelwch rhag dioddef gwahaniaethu.
Siwiodd Martyn Hall a Steve Preddy, cymheiriaid sifil, berchnogion Gwesty Preifat Chymorvah yng Nghernyw ar sail iddyn nhw beidio â chael rhannu ystafell ddwbl oherwydd eu bod yn gwpl hoyw.
Mae perchnogion y gwesty, Peter a Hazel Bull, yn Gristnogion defosiynol ac nid ydyn nhw’n caniatáu i gyplau sydd heb briodi rannu ystafelloedd dwbl oherwydd nid ydyn nhw’n credu mewn rhyw cyn priodi. Gwnaeth Mr. a Mrs. Bull haeru nad oedd eu gwrthodiad i adael cymheiriaid sifil rhannu ystafell ddwbl yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol ond ‘popeth yn ymwneud â rhyw’. Dywedodd y perchnogion fod y cyfyngiad yn gymwys yn gyfartal i gwplau heterorywiol nad oedd wedi priodi.
Dyfarnodd y Barnwr Rutherford fod y gwesty wedi gwahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn y cwpl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a dyfarnodd iawndal o £1,800 iddyn nhw yr un.
Achos 5 - oed
Yn 2011, enillodd cyn cyflwynydd y BBC, Miriam O’Reilly, ei hachos gwahaniaethu yn erbyn y BBC ar ôl iddi golli ei swydd yn sioe materion gwledig BBC1, Countryfile.
Cymerodd O'Reilly, 53, achos cyfreithiol yn erbyn y BBC gan honni ei bod wedi dioddef gwahaniaethu ar ôl iddi fod yn un o bedair cyflwynwraig, i gyd yn eu 40au neu 50au, a gollodd eu swyddi ar y sioe 23 oed. Collodd O'Reilly ei swydd ar y sioe ynghyd â Charlotte Smith, Juliet Morris a Michaela Strachan, pan symudwyd y rhaglen fore Sul i slot cyfnod brig newydd ym mis Ebrill 2009.
Dywedodd y BBC ei fod wedi dewis cyflwynwyr ‘ail haen’ newydd i Countryfile yn lle O'Reilly oherwydd bod ‘proffil rhwydweithio sylweddol ganddyn nhw a allai ddenu cynulleidfa cyfnod brig’ – ond dyfarnodd y llys mai nid felly yr oedd hi. 'Rydym yn ystyried oedran i fod yn ffactor arwyddocaol yn y penderfyniad i beidio ag ystyried O’Reilly.'
Yn ystod ei thystiolaeth i’r llys honnodd O'Reilly fod cyfarwyddwr Countryfile wedi’i rhybuddio 'to be careful with those wrinkles when high definition comes in' naw mis cyn y collodd ei swydd.
Dywedodd y tribiwnlys: 'The wish to appeal to a prime-time audience, including younger viewers, is a legitimate aim. However, we do not accept that it has been established that choosing younger presenters is required to appeal to such an audience'.
Dywedodd y cyflwynydd, a gafodd iawndal gan y BBC o ganlyniad i’r dyfarniad hwn , wrth MediaGuardian.co.uk: 'Words cannot describe how happy I feel. It's historic and it's going to have huge implications for all broadcasters.'
Yng ngolau dyfarniad y llys, dywedodd y BBC y byddai’n cynnig hyfforddiant ychwanegol i uwch weithredwyr golygyddol a chyhoeddi canllaw newydd ar ddewis cyflwynwyr yn deg.
3. Enghraifft gweithredu gadarnhaol
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gweithredu cadarnhaol, cyfeiriwch at ganllaw'r Comisiwn.
Taclo tangyflawni mysg bechgyn lleiafrifoedd ethnig
Cododd problemau mewn ysgol yn Llundain yn ymwneud ag ymddygiad rhai disgyblion lleiafrifoedd ethnig, yn enwedig bechgyn a’u hanes o dangyflawni. Roedd yr ysgol o’r farn mai amddifadedd a disgwyliadau isel ymysg teuluoedd o ran addysg oedd ar fai, ynghyd â Saesneg fel ail iaith.
I gymryd camau unioni, gweithiodd yr ysgol gydag elusen i ddatblygu prosiect a fyddai’n gwella ymddygiad, codi dyheadau a hwyluso agwedd fwy cadarnhaol at ddysgu. Am un diwrnod bob pythefnos, ymwelodd y bechgyn â’r elusen i weithio gyda gweithwyr ieuenctid, i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, megis defnyddio chwarae rôl i ddatrys anghydfod, llunio canllawiau am eu dyfodol a bwrw golwg ar y rhwystrau rhag llwyddiant a ffyrdd i orchfygu’r rhain.
Elwodd y disgyblion gan y ddau dymor gwaith a dangosodd gwerthusiad fod presenoldeb y disgyblion yn yr ysgol wedi gwella, yn ogystal â’u perfformiad academaidd, eu hymddygiad a’u cynnydd.
4. Enghreifftiau yn ymwneud â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Am fwy o wybodaeth am ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, cyfeiriwch at ganllaw'r Comisiwn.
Cynyddu cyfranogiad / taclo ystrydebau ar sail rhywedd ym maes chwaraeon, o fewn y cwricwlwm a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol fel ei gilydd
Penderfynodd academi i fechgyn a merched yng Ngogledd Dwyreiniol Lloegr fod yn rhaid iddi gymryd camau ynglŷn â phrinder merched yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Gwnaethon nhw gydnabod hefyd fod angen taclo ystrydebau ar sail rhywedd ym maes chwaraeon i’r disgyblion oll. Ar y pryd roedden nhw’n cynnig cwricwlwm chwaraeon traddodiadol a chyfyng iawn ac roedd diwylliant o wahanu merched a bechgyn ar gyfer dysgu.
Lluniodd yr ysgol gynllun cydraddoldeb newydd ar sut y gallan nhw daclo’r materion ac anfonwyd hwn at bob rhanddeiliad ar gyfer mewnbwn, gan gynnwys llywodraethwyr ysgol, rhieni, yr heddlu ac asiantaethau allanol eraill.
Roedd y cynllun cydraddoldeb yn cynnwys:
- Datblygu partneriaeth gyda choleg chwaraeon lleol i helpu taclo’r broblem o adran ymarfer corff nad oedd ag adnoddau digonol ac i gynnal adolygiad o’r cwricwlwm ymarfer corff a’r gweithgareddau allgwricwlaidd a ddarparwyd.
- Cynnig ystod ac ansawdd gwell o ddarpariaeth chwaraeon ac ymarfer corff, gan gynnwys campfa ffitrwydd, dawns, beicio mynydd y tu allan i’r ysgol ac ati.
- Sicrhau cyfle cyfartal i bob disgybl drwy wneud pob gweithgaredd yn agored i ferched a bechgyn.
Cafodd gwaith yr ysgol ar daclo anghydraddoldeb ym maes chwaraeon effaith arwyddocaol ar draws yr ysgol, ar fechgyn a merched fel ei gilydd. Roedd cynnydd nodedig yn nifer y merched yn cymryd rhan mewn chwaraeon, o fewn a thu allan i’r ysgol. Roedd hefyd effaith ganlyniadol ar fathau eraill o ddeilliannau i bob disgybl e.e. bywiogrwydd, canolbwyntio, hyder a hunan barch.
Datblygu cynllun cydraddoldeb o ran anabledd mewn ysgol uwchradd i helpu staff a myfyrwyr i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar draws yr holl linynnau
Wrth ddatblygu ei chynllun cydraddoldeb ar sail anabledd, sefydlodd Ysgol Uwchradd Framwellgate yn Durham grŵp cydraddoldeb o ran anabledd yn cynnwys disgyblion, llywodraethwyr, rhieni, yn ogystal ag athrawon, athrawon cynorthwyol a staff gweinyddol. Mae anabledd gan y rhan fwyaf o’r grŵp neu maen nhw’n gofalu am blentyn anabl. Cam cyntaf y grŵp oedd adolygu polisïau’r ysgol. Neilltuwyd cryn dipyn o amser i’r broses hon i gynnwys ystod eang o bobl ac ymgysylltu’n helaeth. Gellid hefyd lunio testun a oedd heb jargon ac yn hawdd i ddisgyblion ei ddeall. Cafodd cynrychiolwyr y disgyblion adborth gan gyd-ddisgyblion drwy gynnal grwpiau ffocws. Drwy gymryd digon o amser, teimlai’r ysgol ei bod wedi elwa ar ddealltwriaeth well o’i dyletswyddau a’i chyfrifoldebau yn ogystal â gwerthfawrogiad mwy trylwyr o anabledd a’i effaith ar ddisgyblion, rhieni a staff.
Ar ôl y gwaith dechreuol hwn, teimlai’r grŵp yn barod i ddatblygu ei gynllun gweithredu a’i gynllun cydraddoldeb o ran anabledd. Mae gan hwn bellach berchenogaeth eang ar draws yr ysgol ac mae wedi’i integreiddio i fusnes y sefydliad. Canlyniad arwyddocaol oedd datblygiad a hunanhyder y myfyrwyr a oedd yn aelodau. Cawson nhw eu trin fel aelodau cyfartal yn y grŵp. Roedden nhw’n cael eu hysbysebu’n ffurfiol am gyfarfodydd a chael cofnodion ohonynt wedyn. Roedden nhw’n gallu mynd i’r cyfarfodydd yn ystod gwersi ac yn cael eu gwahodd i gadeirio cyfarfodydd. Mae hyn wedi cynyddu hyder y disgyblion yn fawr a’u rhan yn y cyfarfodydd. Mae’r disgyblion wedi:
- bidio’n llwyddiannus am arian oddi wrth y llywodraethwyr i roi’r cynllun gweithredu ar waith
- llunio a chyflwyno cynllun busnes, sydd wedi’i gostio’n llawn, i’r grŵp a gwella’r cynlluniau hyn yn dilyn asesiad risg ganddyn nhw ei hunain
- gwerthuso a phrynu cynhyrchion i’r ysgol (posteri i godi ymwybyddiaeth o anabledd) ar ôl trafod gyda staff ar gyfer eu canolfan cyrhaeddiad a’r llyfrgell
- sicrhau arian gan reolwr busnes yr ysgol i ailwampio ystafell gyfarfod i gymorth gan gyfoedion.
Pan oedd yn amser i adolygu’r cynllun, penderfynodd y grŵp i ehangu ei gylch gorchwyl i gynnwys materion rhywedd a hil, yn ogystal â materion eraill megis bwlio homoffobig.
5. Enghraifft o ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol
Defnyddio technoleg i alluogi coleg i gefnogi myfyrwyr anabl
Gosododd Coleg Stanmore feddalwedd hygyrch ymhob un o’i gyfrifiaduron i gynorthwyo myfyrwyr anabl. Darparon nhw brosesyddion geiriau Alphasmart sydd wedi bod yn llwyddiant mawr o ran myfyrwyr â dyslecsia ar gyfer cymryd nodiadau. Datblygodd y Coleg fodd mwy effeithiol o gofnodi salwch megis canser / diabetes ac epilepsi yn ogystal ag alergeddau difrifol fel y gellir cefnogi myfyrwyr yn briodol yn y dosbarth ac yn ystod arholiadau fel ei gilydd.
Mae pob myfyriwr sydd wedi datgelu anabledd neu salwch yn cael ei asesu o ran risg. Mae’r Weithdrefn a’r Polisi Iechyd a Diogelwch newydd hefyd yn sicrhau bod cymorth i fyfyrwyr yn hawdd i’w gael mewn argyfwng.
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
16 Mai 2016
Diweddarwyd diwethaf
16 Mai 2016